Cost of Living Support Icon

 

Cynnyrch lleol ffres ar gyfer prydau bwyd yn ysgolion y Fro

Nod adran arlwyo Cyngor Bro Morgannwg yw cynnwys cynnyrch lleol ffres er mwyn darparu prydau ysgol maethlon.

 

  • Dydd Llun, 08 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Cafodd astudiaeth ei chomisiynu i archwilio’r potensial i ffermwyr a chynhyrchwyr gyflenwi cynnyrch ffres i fwydo ein plant.

 

Bydd tîm y project, a arweinir gan ymgynghorwyr busnes gwledig PER Consulting Ltd yn cysylltu â chynhyrchwyr bwyd ledled y Fro ac ardaloedd cyfagos, er mwyn adnabod yr ystod o gynnyrch sydd ar gael ac i archwilio'r capasiti i fodloni anghenion ceginau ysgolion.

 

Fel Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol (LATC), bydd Cyngor y Fro yn gallu ysgogi economïau maint lleol a bydd y prosiect hwn yn helpu'r cyngor i gydlynu gyda chynhyrchwyr lleol a chadwyni cyflenwi.

 

Cefnogwyd yr Astudiaeth gan Grŵp Gweithredu Lleol y Cymunedau Creadigol Gwledig a ariennir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru, a chan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Dywedodd Symon Dovey, Rheolwr Arlwyo Cynorthwyol ym Mro Morgannwg: “Rydym yn gwybod y cynhyrchir ystod eang o gig ffres, llysiau, cnydau salad a ffrwythau yn y Fro. Os bydd capasiti lleol a gallwn ddatrys logisteg dosbarthiadau, rydym yn awyddus i adeiladu cysylltiadau gwell rhwng ein hysgolion a'n cynhyrchwyr lleol - nid yn unig o ran beth mae ein plant yn ei fwyta ond trwy addysg ar o ble mae'n bwyd yn dod hefyd."

 

Byddai’r astudiaeth yn dod i ben fis Rhagfyr, gyda’r nod o sefydlu cadwyn cyflenwi os bydd yn ddichonadwy yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf.  Yn y cyfamser bydd PER Consulting yn cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda ffermwyr, tyddynwyr a busnesau gwledig, yn ogystal â chynnal arolygon ar-lein.