Cost of Living Support Icon

 

Arddangosfa llyfrgell yn ystyried hanes y Barri fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon

Mae arddangosfa sy'n datgelu hanes y morwyr masnachol a deithiodd i'r Fro yn cael ei harddangos yn llyfrgell y Barri.

 

  • Dydd Llun, 15 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae'r arddangosfa o'r enw ‘Cyn Windrush – Morwyr Masnachol y Byd a’u Cymrodyr’ yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon, sydd wedi'i farcio'n flynyddol ledled y DU.

 

Nod y Mis Hanes Pobl Dduon yw hyrwyddo gwybodaeth am hanes du, diwylliannol a hanesyddol, yn ogystal â lledaenu gwybodaeth am gyfraniadau du cadarnhaol i gymdeithas Prydain.

 

Agorodd Aelod Cabinet y Fro y Cyng. Bob Penrose y digwyddiad gan ddweud: “Roedd yn bleser cael gwahoddiad i lansiad yr arddangosfa hon.

"Mae straeon y morwyr masnachol sy’n byw yng Nghymru’n rhyfeddol a gobeithio y daw cynifer o bobl â phosibl i’r llyfrgell i ddysgu mwy am y darn hwn o hanes y Fro.”

 

Cllr Penrose with James Baker

 

 

Dywedodd James Baker, curadur yr arddangosfa:  “Yr hyn rwyf wedi ceisio’i ddangos rhywfaint o ffeithiau a gwybodaeth yn y llyfrgell hon, ond hefyd beth y gellid bod wedi’i wneud i’r dynion a fu farw.

“Mae gennych deulu Somali, teulu Farrah a Steve Khaireh, sy’n berthynas i’r teulu, i’r dyn a gadeiriodd drafodaethau’r CU i ryddhau Nelson Mandela.

 

“Ganed Abdulrahim Abby Farah yn Thompson St yn y Barri a chreodd ei dad y clwb ieuenctid lleiafrif du a gwyn cyntaf yng Nghymru sef ‘Clwb Ieuenctid Domino’ ym 1947. Os na chrëwyd y ‘Clwb Ieuenctid Domino’ byddai cynifer o blant o leiafrifoedd heb frechdan, diod, heb fod yn rhan o Garnifal y Barri.  Dechreuwyd y cyfan o hyn gan deulu Farrah i bawb arall, a wnaeth wahaniaeth pwysig i hanes pobl dduon yng Nghymru.” 

 

Crëwyd cyfres o lechi domino ar Pont Droed Thompson Street y Barri gyda phortreadau o gyn-aelodau’r Clwb Domino.

 

Mae cerdd am Thompson Street a luniwyd gan un o aelodau’r  Clwb Domino yn llythyr a dorrwyd yn y domino cyntaf.

 

Bydd yr arddangosfa yno tan ddydd Sadwrn 27 Hydref.  

 

 

Merchant seamen exb library