Cost of Living Support Icon

 

Ardal chwarae Lougher Place yn agor wedi gwaith adnewyddu mawr

Agorwyd ardal chwarae Lougher Place yn Sain Tathan yn swyddogol mewn dathliad a gynhaliwyd gan y sefydliad cymunedol lleol Saints y penwythnos diwethaf.

  • Dydd Mercher, 03 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



 

Cafodd y safle waith ail-ddatblygu mawr gan Gyngor Bro Morgannwg diolch i ymdrechion y grŵp.

 

Preswylwyr lleol yw sefydliad Saints, a’u nod yw gwella mannau agored ac ardaloedd chwarae yn y pentref.

 

Gan ddefnyddio’r arwyddeiriau #dysgu#tyfu#chwarae#ynghyd, maen nhw am annog plant i fod yn fwy actif a chynnig amgylcheddau awyr agored iddyn nhw eu mwynhau.

 

Dan arweiniad Lisa Austin, Sally Gardiner, Charlotte Cook a David Elston, casglon nhw £3,500 tuag at y cynllun hwn, a oedd yn cynnwys trawsnewid yr ardal chwarae yn llwyr, gosod offer newydd ac ail-wynebu’r safle.

 

 

 

lougher place re opening with Cllr Thomas

 

 

£157,500 oedd cyfanswm cost y cynllun, a daeth £126,000 o grant gan Lywodraeth Cymru ac £28,000 gan gyfraniadau adran 106 lleol a gafodd y Cyngor yn gysylltiedig â datblygiadau adeiladu.

 

Ynghyd â’r brif ardal chwarae, sy’n cynnwys ystod o offer modern, gosodwyd ardal gemau aml-ddefnydd lle gellir chwarae gemau pêl.

 

Mae hyn yn cynnwys ffens sy’n amsugno sŵn er mwyn lleihau’r tarfu ac mae llwybr troed newydd wedi ei greu i wella’r draenio o’r ardal.

 

Mae'r cyfarpar sydd wedi ei osod yny safle'n cynnwys siglenni nyth, llithrennau llydan, cerbydau siglo ar sbring, cwrs symud, tŵr dringo a chwt.

 

Mae wedi ei ddylunio ag elfennau sy’n apelio at y cyffwrdd a chwarae grŵp dan sylw, yn cynnwys lliwiau cyferbyniol a sain.

Mae’r ystod eang o brofiadau chwarae’n addas ar gyfer plant anabl ac eraill ac maen nhw’n rhoi'r cyfle i blant o oedrannau gwahanol chwarae ynghyd.

 

HAGS wnaeth y gwaith, un o gynhyrchwyr cynnyrch hamdden mwyaf Ewrop.

 

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Chynghorydd Ward Sain Tathan, y Cyng John Thomas: “Dyma’r diwethaf mewn cyfres hir o welliannau i ardaloedd chwarae gan y Cyngor. Roeddwn i’n falch o allu gweithio gyda Lisa a’r tîm i wireddu’r project hwn.

 

 “Hoffwn i ddiolch i aelodau sefydliad Saints am eu gwaith caled yn codi arian ar gyfer y project hwn, ynghyd â phawb a gyfrannodd, yn arbennig Swyddogion Cyngor Bro Morgannwg, a fu’n gweithio â’r gymuned i gynllunio’r cynllun a hefyd yn goruchwylio’r cais am grant arian Ewrop.

 

 “Mae’r cynllun cyffrous hwn wedi trawsnewid Lougher Place yn ardal chwarae fodern dros ben, sy’n llawn offer cyffrous a chynhwysol y gall plant o ystod eang o oedrannau, anabl ac eraill ei fwynhau.

 

 “Rwy’n gobeithio y bydd cymuned Sain Tathan yn mwynhau eu cyfleuster newydd ac y bydd yn helpu i annog byw’n actif ac yn iach, fel rydyn ni, fel Cyngor, yn ceisio ei hyrwyddo.”

 

 

Dywedodd Ms Austin: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am ei hymdrechion. Rwy’n gobeithio y bydd yn teimlo bod yr ardal chwarae yn ganlyniad addas i’r holl waith caled ac y bydd yn rhywle i blant a theuluoedd Sain Tathan ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

 

 

 


lougher place re opening