Cyngor y Fro’n cefnogi digwyddiad poblogaidd iawn Rhuban Gwyn y DU
Gwnaeth nifer fawr iawn o ddynion gerdded yn falch mewn esgidiau merched i ddangos eu cefnogaeth i’r Rhuban Gwyn, yr ymgyrch i ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae’r project ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Dai Cadwyn wedi tyfu o 14 dyn yn unig yn 2014.
Bellach yn ei bumed flwyddyn, gwnaeth ‘Cerdded Milltir yn Ei Sgidiau Hi’ ddenu dros 100 o gyfranogwyr ddydd Gwener 28 Medi. Yn dechrau yng Nghastell Caerdydd, roedd y daith yn dilyn llwybr un filltir o amgylch canol y ddinas, cyn dod i ben yn ôl yn y castell.
Ynghyd â'r cyhoedd a staff gwrywaidd sefydliadau megis Atal y Fro, Cymru Ddiogelach a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro roedd ffigyrau uchel ar y daith hefyd.
Yn dechrau yng Nghastell Caerdydd, roedd y daith ar ddydd Gwener 28 Medi, yn dilyn llwybr un filltir o amgylch canol y ddinas, cyn dod i ben yn ôl yn y castell. Ynghyd â'r cyhoedd a staff gwrywaidd sefydliadau megis Heddlu De Cymru, Cymru Ddiogelach a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro roedd ffigyrau uchel ar y daith hefyd.
Siaradodd Rachel Nugent-Finn, y Llysgennad Rhuban Gwyn a Chynghorydd Cyngor Bro Morgannwg dros ward Cadog, yn y digwyddiad Llysgenhadon yn dilyn y daith gerdded.
Meddai: "Roedd y digwyddiad cerdded milltir yn llwyddiant rhagorol unwaith eto, gyda’r digwyddiad llysgenhadon yn dilyn.
“Mae’r digwyddiad yn ein galluogi i edrych ar ein nodau a'n hamcanion a gweithio’n unedig gyda phob gwasanaeth ac awdurdod i'n galluogi i symud a pharhau i wthio er mwyn dod â thrais domestig i ben, a hynny drwy addysgu, atal a dysgu.
Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad ar ran y Fro a gwahodd ein cydweithwyr i ymuno â ni wrth i ni uno ac annog mwy o lysgenhadon gwrywaidd ledled y Fro a Chaerdydd. Diolch o galon i'r trefnwyr ac i bawb a ddaeth i'r digwyddiad a chymerodd ran ynddo."
Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad ar ran y Fro a gwahodd ein cydweithwyr i ymuno â ni wrth i ni uno ac annog mwy o lysgenhadon gwrywaidd ledled y Fro a Chaerdydd. Diolch o galon i'r trefnwyr ac i bawb a ddaeth i'r digwyddiad a chymerodd ran ynddo."
Bob blwyddyn yn y DU, mae mwy na miliwn o fenywod yn dioddef trais domestig ac mae mwy na 360,000 yn dioddef ymosod rhywiol. Er bod cam-drin yn erbyn menywod yn gymharol uwch, mae trais a cham-drin yn gallu effeithio ar unrhyw un.
Dywedodd Chris O’Meara, Prif Weithredwr Cymdeithas Dai Cadwyn: “Mae mynd i’r afael â cham-drin domestig wedi bod yn flaenoriaeth i Cadwyn erioed ac yn 2014, ni oedd y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i roi hyfforddiant cam-drin domestig i bob aelod o’n staff.
"Y flwyddyn honno oedd y tro cyntaf i ni gynnal ymgyrch Cerdded Milltir yn ei Sgidiau Hi hefyd, a hynny gyda 14 dyn o Cadwyn yn gwisgo pâr o sgidiau menyw a cherdded milltir i lawr Heol Casnewydd i godi ymwybyddiaeth o’r Ymgyrch Rhuban Gwyn. Mae’r digwyddiad wedi tyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn ac rwy’n falch iawn o’r gefnogaeth rydym wedi'i chael gan bobl a sefydliadau Caerdydd a'r Fro."
Os ydych chi, neu os ydych chi yn adnabod rhywun sydd yn byw gyda cham-drin domestig, gallwch dderbyn help a chymorth o’r llinell gymorth ar 0808 80 10 800 (llinell gymorth rydd a cyfrinachol ar agor 24awr) neu ar www.livefearfree.gov.wales