Cost of Living Support Icon

 

Mae clybiau a sefydliadau yn y Fro yn ennill dros £15,000 o gyllid y Gist Gymunedol

Yn ddiweddar llwyddodd cyfanswm o 11 o sefydliadau i sicrhau £15,473 o gyllid y Gist Gymunedol i ddatblygu ac ymestyn cyfleoedd chwaraeon yn y Fro.

 

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



 

 

sport walesMae cynllun y Gist Gymunedol wedi'i ariannu gan Chwaraeon Cymru a'i reoli'n lleol gan Dîm Byw'n Iach Cyngor y Fro. Caiff ceisiadau eu hystyried gan banel o wirfoddolwyr cymunedol a chynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru a Chyngor y Fro.

 

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer meysydd megis addysg hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, prynu offer, marchnata a llogi cyfleusterau cychwynnol ar gyfer gweithgareddau newydd.



Enillodd Clwb Pêl-fasged Y Barri gyllid i gynyddu aelodaeth y clwb ymhlith menywod a chyfranogwyr sy’n fechgyn a merched 12-16 oed.

 

 

Bydd tîm y Penarth Allstars yn defnyddio’r cyllid i lansio project Netball Tots, gan dargedu plant bach a chyflwyno sesiynau pêl-rwyd cerdded i'r rhai sydd â phroblemau symudedd.

 

Y sefydliadau eraill a oedd yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid oedd

Cymdeithas Tai Newydd, Clwb Pêl-droed Amatur Dinas Powys, a Chlwb Pêl-droed Amatur Tref Penarth.

 

Gellir defnyddio cyllid y Gist Gymunedol hefyd i ddatblygu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithgareddau corfforol, megis grwpiau rhedeg a beicio.

 

Gall sefydliadau heblaw am glybiau chwaraeon wneud cais am gyllid (mae amodau penodol ar waith y mae angen bod sefydliadau yn gallu eu bodloni er mwyn gwneud cais). Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn gymwys i wneud cais cyhyd â’u bod yn gallu dangos eu bod yn datblygu gweithgareddau newydd rheolaidd ac yn gallu bodloni'r meini prawf.

 

Os ydych yn rhan o sefydliad ac â diddordeb mewn datblygu cyfleoedd, mae cyfarfod nesaf panel y gist gymunedol ddydd Iau 22 Tachwedd.

 

Y dyddiad cau am geisiadau cyflawn yw Dydd Iau 8 Tachwedd.

 

Gallwch hefyd drafod project posibl trwy gysylltu â Karen Davies, y Prif Swyddog Byw yn Iach ar 01446 704793.