Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi £100,000 i fentrau cymunedol

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi addo £100,000 arall i fentrau cymunedol yn y Sir trwy ei Chronfa Grant Cymunedau Cryf, sy'n gwneud cyfanswm gwariant ar brojectau felly yn £428,000 ers mis Ebrill y llynedd.

 

  • Dydd Gwener, 05 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Yn unol â Chynllun Corfforaethol y Cyngor, crëwyd y gronfa £670,000 i gynorthwyo cynlluniau arloesol a chynaliadwy trwy’r Fro.

 

Ymhlith y rhai a dderbyniodd arian trwy'r dull hwn mae Cyngor Cymuned Llandochau, a fydd yn derbyn 

Thomas-John Cllr

cwta £45,000 ar gyfer creu pentref gemau aml-ddefnydd newydd, a rhoddwyd arian hefyd tuag at greu cegin yn rhan o neuadd bentref newydd sbon Aberogwr.

 

 

Bydd Cymdeithas Neuadd Gymunedol Tregolwyn yn derbyn £14,000 o fuddsoddiad mewn ardal chwarae i blant ac aiff £2,000 tuag at broject gerddi cymunedol Cymdeithas Preswylwyr Tŷ Cadog.

 

 

 

Diben Cronfa Cymunedau Cryf yw rhoi’r gallu i grwpiau cymunedol, y trydydd sector a chynghorau cymuned i wneud ceisiadau am grantiau sy’n hyrwyddo mentrau ym Mro Morgannwg sy'n unol â gweledigaeth “cymunedau cryf a dyfodol disglair” y Fro.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac aelodau panel gwerthuso Cronfa Grant Cymunedau Cryf: “Rwyf i wrth fy modd y  bu modd i ni gynorthwyo mwy fyth o brojectau gwerth chweil yn rownd ddiweddaraf y dyraniadau arian.

 

 

 “Sefydlwyd y gronfa i gynorthwyo mentrau a wnaiff wahaniaeth go iawn i gymunedau ym Mro Morgannwg ac rwy’n awyddus iawn i weld yr effaith a gaiff yr arian hwn ar y cynlluniau a fu’n llwyddiannus y tro hwn.

 

 

 “Mae’r grantiau hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus gan y Cyngor i helpu mentrau ar lawr gwlad, ymrwymiad sydd eisoes wedi rhoi dros £400,000 ac mae arian eto i’w ddyrannu yn hwyrach eleni.”