Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cyhoeddi Strategaeth Hamdden i hyrwyddo byw’n iach

CYHOEDDODD Cyngor Bro Morgannwg Strategaeth Hamdden mewn ymdrech i hyrwyddo byw’n iach trwy’r Sir.

 

  • Dydd Gwener, 05 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Mae gwasanaethau hamdden y Fro eisoes wedi eu henwi fel enghreifftiau o arfer da gan Swyddfa Archwilio Cymru, ond awgrymwyd y gallai llunio strategaeth fanwl helpu’r Awdurdod i ragori eto fyth yn y maes hwn.

 

Nod y strategaeth yw:

 

•             Creu cyfleusterau hamdden o safon well trwy’r Fro.

•             Cynyddu nifer y bobl sy’n gorfforol actif bob dydd.

•             Helpu pobl i deimlo’n fwy iach.

•             Sicrhau y caiff cyfleusterau eu defnyddio yn amlach, er budd rhagor o bobl.

 

 

Daw hyn wedi rhaglen waith sylweddol i ddiwygio canolfannau hamdden. Gwnaed arbedion sylweddol hefyd i’r costau gweithredu ynghyd â gwelliant yn safon y gwasanaeth a ddarperir.

 

Mae’r Fro wedi ei chydnabod fel un o’r tri pherfformiwr gorau yng Nghymru o ran cyfranogiad mewn chwaraeon, ac mae’r Cyngor hefyd wedi helpu i ailddatblygu Jenner Park a chreu cyfleusterau pum bob ochr newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot.

 

Mae saith parc Baner Werdd a gynhelir gan y Cyngor yn y Sir; mae’r faner yn arwydd o fan agored o safon uchel. Dyna’r ail nifer uchaf yng Nghymru a’r gyfran uchaf o ran nifer y boblogaeth.

 

Mae baneri glas hefyd yn chwifio ar ddau draeth yn y Fro, yn nodi safon y dŵr.  

 

Mae dros filiwn o bunnoedd wedi ei fuddsoddi mewn ardaloedd chwarae i blant er 2015 ac mae 15,000 o bobl, sef 10 y cant o’r boblogaeth wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff y Fro. Mae’r fenter hon yn ceisio cynyddu faint o weithgarwch corfforol y mae’r rhai â chyflyrau meddygol yn ei wneud, ac sy'n elwa o'r ymdrech gorfforol honno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gordon Kemp, aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden: “Fel cyngor, rydym yn ymrwymo i greu poblogaeth fwy heini ac iach. Mae cysylltiad cryf rhwng hamdden ac iechyd a thrwy ddatblygu’r cysylltiadau hyn yn unig y gallwn ni gychwyn mynd i'r afael â lefelau cynyddol o ordewdra a chlefyd siwgr, problemau iechyd meddwl a chyflyrau eraill sy’n gysylltiedig â diffyg symud.

 

 “Rwy’n hynod falch o’n cyfleusterau a gwasanaethau hamdden a’r gwahaniaeth y mae ein gwasanaethau yn eu gwneud yn ddyddiol. Rwy’n falch o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni a’r ffordd rydyn ni’n gweithio â’n partneriaid i gynnig ystod eang o wasanaethau trwy ein cymunedau lleol.

 

 “Mae’r Strategaeth Hamdden yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol ein gwasanaethau hamdden er mwyn gallu dyrannu’r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol ac yn deg trwy Fro Morgannwg. Mae’r Strategaeth Hamdden hon yn rhoi nifer o amcanion clir er mwyn gwella ffordd o fyw ein poblogaeth a sicrhau bod gennym ‘gymunedau cryf â dyfodol disglair” trwy’r Fro."