Cost of Living Support Icon

 

Gwaith buddsoddi pibelli nwy gwerth £100,000 yn dod i Dresimwn

Mae Wales & West Utilities wedi dechrau cynllun gwerth £100,000 i adnewyddu dros 500 metr o bibell nwy yn ardal Heol y Bont-faen yn Nhresimwn.

 

  • Dydd Llun, 10 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r gwaith, fydd yn dechrau ar 20 Awst, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y nwy yn llifo i wresogi tai a rhoi pŵer i fusnesau yn yr ardal. Disgwylir i’r gwaith gymryd oddeutu 11 wythnos i gwblhau.

 

Er mwyn cadw’r traffig yn llifo yn ystod y gwaith, bydd goleuadau traffig deuffordd ar waith ar yr A48 rhwng School Lane a Duffryn Lane. Bydd y cwmni yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos i sicrhau cyn lleied o darfu ag sy'n bosibl ar Dresimwn.

 “Rydym yn gwybod nad yw gweithio ar ffyrdd fel hyn yn ddelfrydol, ond mae wirioneddol yn hanfodol i sicrhau ein bod ni'n cadw'r nwy yn llifo i gartrefi a busnesau yn yr ardal, ac i sicrhau bod y rhwydwaith nwy yn addas i'r dyfodol. Bydd gennym dîm o beirianwyr nwy ar y safle drwy gydol y project i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd diogel a chyflym, wrth sicrhau nad oes llawer o effaith.

 

Rydym yn ymwybodol iawn o’r effaith y gall ein gwaith gael ar gymunedau a chymudwyr ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Bro Morgannwg i gytuno ar y ffordd orau i wneud y gwaith hanfodol hwn gan achosi cyn lleied o anghyfleustra ag sy'n bosibl." - Francis Kirk, Wales & West Utilities 

Mae Tîm Gwasanaeth Cwsmer Wales & West Utilities yn barod i siarad â chi os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith: