Cost of Living Support Icon

 

Bord Gron y Barri yw'r elusen gyntaf i elwa o Gronfa Grant Sefydliad y Maer 

Mae aelodau Bord Gron y Barri wedi cael grant o £250 gan Gronfa Grant Sefydliad y Maer Bro Morgannwg 2018/19.

 

  • Dydd Mercher, 19 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



 

Yr elusen oedd y sefydliad cyntaf i gael cymorth ariannol gan y Sefydliad eleni, ac roedd y Cadeirydd Barry Dyer yn falch o dderbyn y siec gan Faer y Fro y Cyng. Leighton Rowlands.

 

Clwb i ddynion ifanc sy'n ceisio helpu a chefnogi'r gymuned mewn unrhyw ddull a modd yw Bord Gron y Barri. Maent yn rhoi pwyslais mawr ar iechyd a llesiant unigolion ac yn ddiweddar buont yn canolbwyntio ar iechyd meddwl dynion.

 

Un o’u nodau yn 2018 yw cynyddu nifer yr aelodau. Byddai hyn yn eu helpu i gynnal mwy o ddigwyddiadau fel Cinio Nadolig i’r Henoed a’r cyrsiau Cymorth Cyntaf i rieni, i gyd-fynd â digwyddiadau mwy fel Sled Siôn Corn y Barri.  Byddai’r clwb yn defnyddio’r grantiau i brynu eitemau brand, i hybu statws y clwb mewn ymdrech i ddenu aelodau newydd.

 

Dywedodd Maer y Fro y Cyng. Leighton Rowlands: “Rydw i’n falch iawn o gyflwyno grant o Gronfa Grant Sefydliad y Maer 2018/19.  Rwy'n gobeithio y bydd y grant yn helpu'r elusen i sicrhau aelodau newydd a pharhau â'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud yn y gymuned.

 

“Rwy'n credu bod cefnogi grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a sefydliadau dielw ledled y Fro yn hanfodol, ac rwy'n hapus i gefnogi cymaint o grwpiau â phosibl, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu."

 

Nod Cronfa Grant Sefydliad y Maer yw cynnig grantiau i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a sefydliadau dielw ar gyfer costau mentrau ym Mro Morgannwg sy’n cefnogi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer cymunedau cryf â dyfodol disglair.  

 

Yr arian penodol sydd ar gael i’w ddyrannu bob blwyddyn fel rhan o’r cynllun grant hwn yw £5,000.

 

Am fwy o wybodaeth neu os hoffech wneud cais am y cyllid hwn lawrlwythwch y ffurflen gais a’r nodiadau canllaw o’n gwefan, neu danfonwch  ebost i TheMayor@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

 Mayor Foundation Cheque Presentation