Cost of Living Support Icon

 

Wythnos Ddiogelwch Busnes, 10fed – 16eg o Fedi

Cadw busnesau yn Ne Cymru yn ddiogel

 

  • Dydd Llun, 10 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



Business Safety WeekMae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnig cyngor diogelwch tân i fusnesau fel rhan o Wythnos Diogelwch Busnes y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Tân (CCPT) 2018.

 

Cynhelir yr ymgyrch yn rhedeg o’r 10fed i’r 16eg o Fedi a'i nod yw darparu gwybodaeth a chyngor i'r rheini sy'n gyfrifol am fusnesau ac adeiladau cyhoeddus i leihau nifer y digwyddiadau tân a galwadau ffug yn y gweithle, gan fod y ddau yn effeithio ar ddiogelwch a chynhyrchiant busnesau.

 

Mae'r wythnos yn annog yr holl fusnesau i wirio eu bod wedi cymryd y camau sy'n ofynnol i ddiogelu eu busnes a’u weithwyr rhag tân yn ôl y gyfraith. Rhoddir cyngor hefyd ar atal ymosodiadau tanau bwriadol, lleihau galwadau ffug ac, os oes angen, cyngor diogelwch tân ar gyfer safleoedd sydd â lle i aros dros nos.

 

Gall y cyfnod cyn y Nadolig fod yn amser prysur i fusnesau felly mae'r CCPT yn gofyn i bobl achub ar y cyfle nawr i adolygu asesiadau risg tân a chynlluniau dianc wrth iddynt baratoi ar gyfer y Nadolig gan y byddant o bosib yn cael stoc ychwanegol a staff newydd neu dymhorol. Mae ystadegau yn dangos bod  19,410 o danau wedi digwydd mewn busnesau yn y DU yn ystod 2016-17, gyda thua 30% (5,518) o'r rhain yn cael eu gosod yn fwriadol. 

"Gall tân gael effaith ddinistriol ar fusnesau bach a chanolig. Dyna pam mae'r CCPT yn ymrwymedig i'w gwneud yn ymwybodol y gall gwasanaethau tân eu helpu a'u cynghori ar leihau eu risg o dân.

Rydym yn eu hannog i gysylltu â'u gwasanaeth tân lleol ac i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael iddynt fel eu bod yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi'r DU a'r gymuned leol mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy."

 - Mark Hardingham, CCPT

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn hyrwyddo negeseuon diogelwch drwy’r wythnos, yn ymgysylltu â busnesau lleol ac yn mynychu digwyddiadau busnes bach fel rhan o'r wythnos.  Dilynwch @SWFRSBusinessFS neu ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am gyngor a gwybodaeth.

 

South Wales Fire and Rescue Service will be promoting safety messages throughout the week, engaging with local businesses and attending small business events as part of the week.  Follow or visit the South Wales Fire and Resuce Service website for advice and information.