Cost of Living Support Icon

 

Project gofal "Eich Dewis" yn ennill gwobr genedlaethol

Enillodd y project gategori “Gwasanaethau a arweinir gan y dinesydd” Anrhydeddau Gofal Cymdeithasol Cymru. 

 

  • Dydd Mercher, 19 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg




Mae cynllun “Eich Dewis” yn cynnig gofal a chymorth yn y cartref sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau – drwy gydweithrediad newydd deinamig gydag asiantaethau gofal cartref. Yn sgil Eich Dewis, mae nifer o bobl wedi elwa ar y gallu i weithio gyda’u gweithiwr cymdeithasol a’u hasiantaeth gofal cartref i greu eu pecyn gofal-yn-y-cartref unigryw eu hunain.  Nod y pecyn yw i roi mwy o ryddid i’r unigolyn, annog eu hannibyniaeth a gwella’u lles mewn ffordd sy’n golygu rhywbeth iddyn nhw.  

 

Ychwanegodd Andy Cole, Rheolwr Gweithredol gyda Gwasanaethau Ardal yn y Fro:

“O’r dechrau un, fe nodon ni nifer o bethau y byddai’r project hwn yn mynd i’r afael â nhw. 


“Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl am aros yn eu cartrefi eu hunain, ac nad ydi hyn o angenrheidrwydd yn newid pan fyddan nhw’n wynebu’r angen am ofal. Rydym yn gwybod bod amserlenni gofal yn gallu bod yn anhyblyg a bod canolbwyntio ar amser a thasg yn gallu arwain at dorri ymddiriedaeth rhwng y gofalwr a’r unigolyn, gyda chanlyniadau personol yr unigolyn yn gallu mynd i golli oherwydd yr angen i lynu at yr amserlenni hyn.”    


Drwy gyfrwng “Ein Dewis”, mae’r Cyngor wedi gwella’i berthnasoedd gwaith drwy annog yr asiantaeth gofal a’r person sy’n derbyn y gofal i gymryd mwy o gyfrifoldeb wrth gynllunio gofal a chymorth o ddydd i ddydd, sydd wedi galluogi mwy o hyblygrwydd a theimlad o lesiant. 

 

Dywedodd Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, am ennill y wobr:

“Hoffwn achub ar y cyfle i longyfarch pawb sydd ynghlwm â’r project hwn ar ennill y wobr hon. Mae’n gymaint o gamp, nid yn unig i lwyddo i ddod o hyd i ddull arloesol o gynnig gwasanaethau pan mae galw cynyddol amdanynt, ond mae cael eich cydnabod am hynny ar lefel genedlaethol yn ffantastig.” 

Mae Anrhydeddau Gofal Cymdeithasol Cymru yn wobrau bob yn ail flwyddyn i gydnabod, dathlu a rhannu arfer gwych gan sefydliadau, grwpiau neu dimau mewn gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.