Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cymryd camau yn erbyn teithwyr am feddiannu maes parcio Cae Chwarae'r Brenin Sior V

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gweithredu’n syth wedi i Deithwyr feddiannu maes parcio Cae Chwarae’r Brenin Sior V heb ganiatâd.

 

  • Dydd Llun, 24 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



Aeth y grŵp i mewn i’r ardal brynhawn dydd Llun ac ers hynny maent wedi eu cynghori gan swyddogion y Cyngor bod eu meddiannaeth heb ei awdurdodi, yn anghyfreithlon ac na fydd yn cael ei dderbyn.


Mae’r heddlu wedi eu hysbysu ac mae tîm cyfreithiol y Cyngor wrthi’n ystyried ar hyn o bryd y camau priodol i’w cymryd er mwyn sicrhau y gellir eu taflu allan cyn gynted ag y bo modd.


Fodd bynnag, ceir proses gaeth sy’n rhaid glynu wrthi pan fo tir yn cael ei feddiannu gan  grwpiau Sipsiwn a Theithwyr ac unwaith y bydd hyn wedi ei gwblhau bydd y teithwyr yn derbyn amser a dyddiad i adael y safle.


Yn y cyfamser, bydd arwyddion yn cael eu codi i hysbysu’r cyhoedd am y sefyllfa ac fe gaiff y maes parcio ei gau.

“Mae meddiannu tir y Cyngor yn y modd hwn yn gwbl annerbyniol. Ni chafodd yr ardal ei dylunio ar gyfer y diben hwn ac mae presenoldeb y grŵp yn atal preswylwyr eraill sy’n parchu’r gyfraith rhag ei defnyddio.


Rydym yn cymryd y mater hwn o ddifri ac yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gellir ei ddatrys cyn gynted ag y bo modd.” - Cyng John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg