Cost of Living Support Icon

 

Digwyddiad Gwirfoddoli Bychan yn y Bont-faen

Digwyddiad gwirfoddoli Gwasanaeth Gwirfoddoli Bro Morgannwg yn y Bont-faen i ymgymryd ag antur newydd ac agor byd o gyfleoedd.

 

  • Dydd Llun, 10 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



Bydd Gwasanaethau Gwirfoddoli Bro Morgannwg yn cynnal Digwyddiad Gwirfoddoli Bychan yn Neuadd Leiaf y Bont-faen ddydd Iau 4 Hydref rhwng 11:00am ac 1:00pm. 

 

Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o ddod i adnabod eich cymuned yn well, cwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd. Byddwch hefyd yn gwella'ch siawns o ddod o hyd i waith â thâl. Bydd modd i chi sgwrsio'n uniongyrchol â darparwyr gwirfoddoli lleol a dod o hyd i'r cyfle cywir i chi.

"Cefais fy nghyflwyno i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl mynd i’r Digwyddiad Gwirfoddoli Bychan.  Mae wedi bod yn bleser gwirfoddoli ar gyfer yr elusen arbennig hon ers hynny.  Mae’r amrywiaeth o amgylcheddau rydym wedi gweithio ynddynt wedi bod yn hamddenol a hwyl, ac maent wedi croesawu ac ystyried unrhyw awgrymiadau. Rwy’n falch iawn o fod wedi mynd i’r digwyddiad bychan hwn, sydd wedi fy ngalluogi i gyfrannu mewn ffordd fach iawn tuag at wasanaeth mor bwysig. Diolch.” - Rosemary Taplin

Os hoffech fynd i’r digwyddiad gwirfoddoli, galwch heibio ar y diwrnod a bydd croeso cynnes iawn i chi. 

 

Bydd mwy o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn 2018 yn Llanilltud Fawr a Phenarth.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â Gwasanaethau Gwirfoddoli Bro Morgannwg: