Cost of Living Support Icon

 

Mae adroddiad traffig hir-ddisgwyliedig Dinas Powys wrthi'n cael ei gwblhau  

 

Bydd adroddiad hir-ddisgwyliedig ar ddatrysiadau trafnidiaeth posibl ar gyfer lleihau tagfeydd traffig yn Ninas Powys yn destun ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyngor.

 

  • Dydd Mawrth, 25 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



 

Cafodd adroddiad Cam 2 WelTAG ar wella Trafnidiaeth Strategol yn Ninas Powys ei gomisiynu gan y Cyngor yn 2017 ac mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru. 

 

Mae’r adroddiad drafft wedi’i dderbyn ac yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan swyddogion. Bydd grŵp adolygu technegol yn ystyried yr adroddiad yn gyfrinachol ym mis Hydref, cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus sydd wedi gynllunio ar gyfer mis Tachwedd 2018.  

 

Cllr Thomas

 

Mae’r adroddiad drafft yn cynnwys opsiynau ar gyfer ffordd osgoi'r A4055 yn Ninas Powys yn ogystal ag opsiynau i wella cyfleoedd bws, rheilffordd, beicio a cherdded yn y pentref.

 


Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor:  “Rwy’n falch iawn o dderbyn yr adroddiad drafft a’r achos busnes amlinellol ar gyfer Gwella Trafnidiaeth Strategol yn Ninas Powys. Bydd yr adroddiad drafft hwn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn i bawb â diddordeb gael cyfle i ddweud eu dweud.  

 

“Mae’r astudiaeth yn rhoi cyfle gwych i’r gymuned a’r ardaloedd amgylchynol roi sylwadau ar y cynigion drafft ar gyfer ffordd osgoi Dinas Powys yn ogystal â’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus."

 

Caiff rhagor o wybodaeth ar y broses ymgynghoriad cyhoeddus ei ryddhau gan y Cyngor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Bydd yn cynnwys digwyddiadau sesiynau galw heibio lle gall pobl drafod yr adroddiad drafft gyda swyddogion yn ogystal â rhoi sylwadau ar gynigion yr adroddiad drafft.