Cost of Living Support Icon

 

Ardal chwarae Paget Road yn agor ar ei newydd wedd ar ol adnewyddiad gwerth £300,000

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau gwaith ar broject gwerth £300,000 i adnewyddu’r ardal chwarae a gemau aml-ddefnydd yn Paget Road, Penarth

  • Dydd Llun, 03 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg

    Penarth



Bu gwaith tirlunio mawr a chafwyd swm o offer newydd wedi sicrhau arian ar gyfer y cynllun trwy gyfraniadau Adran 106 gan ddatblygiadau lleol.


Yn cynnwys ardal sy’n addas i fabanod, mae'r safle'n cynnwys ystod o offer ar gyfer plant hyd at 12 oed hefyd.

 

Paget1Bydd yr offer newydd yn cynnwys reid trac tebyg i weiren wib, uned dringo aml-ddefnydd ac amrywiaeth o ddarnau eraill.


Mae modd chwarae ystod o gampau megis pêl-droed a phêl fasged y tu mewn i’r ardal gemau aml-ddefnydd, sydd hefyd yn cynnwys llif oleuadau o fachlud haul tan 9pm, ar gael gyda botwm amseru.


Mae’r llwybr tua'r dwyrain o'r ardal chwarae wedi ei adnewyddu a'i symud oddi wrth ffens y ffin ac mae gwelliannau i'r llwybr ar ochr y dwyrain yn cynnwys gosod goleuadau lefel isel.


Mae’r gwaith wedi ei wneud fel rhan o gynllun gwella Mannau Agored Penarth a fydd hefyd yn gweld gwelliannau i The Dingle a Chae Chwarae Cogan, ac mae Plassey Square.

Paget2Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r project cyffrous hwn wedi trawsnewid ardal chwarae Paget Road Penarth yn amgylchedd modern a deniadol i blant o bob oedran a gallu. Mae hefyd yn rhan o raglen fuddsoddi barhaus mewn cyfleusterau tebyg trwy’r Fro.


“Mae nifer o ardaloedd chwarae yn  y sir eisoes wedi eu adnewyddu ac mae eraill ar fin cael gwaith tebyg yn y dyfodol agos. Gobeithiwn y gallwn gynnig amgylchedd modern, diogel a chyffrous i blant fwynhau.”