Cost of Living Support Icon

 

Disgyblion yn lansio VOGBLOG

Mae naw ysgol ym Mro Morgannwg wedi dod ynghyd i ddechrau blog i rannu eu newyddion diweddaraf gyda disgyblion, rhieni a’r gymuned ehangach. 

  • Dydd Llun, 24 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg




Cafodd VOGBLOG ei ddylunio a’i enwi gan ddisgyblion mewn gweithdy a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Dinesig ym mis Gorffennaf.  Yn ystod y gweithdy cafodd ddisgyblion hefyd y cyfle i ddysgu sgiliau newydd o ran ysgrifennu erthyglau newyddion gan dîm cyfathrebu’r Cyngor.  


Y syniad y tu ôl i’r blog oedd rhoi platfform i ddisgyblion rannu straeon, digwyddiadau, acolâdau, cyflawniadau chwaraeon a mwy gyda’u hysgolion a’r gymuned ehangach.   Bydd y blog hefyd yn caniatáu cydweithredu rhwng nifer o ysgolion yn y Fro.  


Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion gyda diddordeb yn y cyfryngau neu gyrfa mewn newyddiaduriaeth i wella eu sgiliau yn gynnar mewn bywyd ac adeiladu portffolio o’u gwaith.     


Dros yr haf, mae swyddogion yn yr adran Addysg wedi bod yn gweithio i ddatblygu'r blog, gan ddiwallu dewisiadau dylunio disgyblion,  yn barod ar gyfer lansio’r blog yn nhymor yr hydref. 

 

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Addysg:  “Rwy’n credu ei fod yn syniad rhagorol i ddisgyblion allu ysgrifennu a rhannu erthyglau newyddion ar ran eu hysgol”


“Rwy’n gobeithio y bydd mwy o ysgolion yn cymryd rhan yn y VOGBLOG.  Mae ysgrifennu a datblygu blog yn sgil allweddol i ddisgyblion ei ddatblygu a bydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd y tu hwnt i’w cyfnod yn yr ysgol.”

 


Gellir gweld y VOGBLOG yn www.vogblog.wales ac rydym yn gobeithio drwy rannu’r platfform hwn y bydd mwy o ysgolion eisiau cymryd rhan.