Cost of Living Support Icon

 

Wythnos Ailgylchu 2018

Gall Bro Morgannwg ymfalchïo ein bod yn ‘Llwyddo’ i ailgylchu! 

 

  • Dydd Llun, 24 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



 

Gall Bro Morgannwg ymfalchïo ein bod yn ‘Llwyddo’ i ailgylchu! Eleni, ar gyfer yr Wythnos Ailgylchu fwyaf a’r orau eto, mae Ailgylchu dros Gymru’n dathlu safle Cymru fel y drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu.

 

Eleni yw’r 15fed Wythnos Ailgylchu flynyddol (24–30 Medi), ac mae Ailgylchu dros Gymru am ddathlu’r cynnydd ardderchog yn ein cyfraddau ailgylchu sydd wedi ein helpu i gyrraedd ein safle ymysg tair cenedl orau’r byd am ailgylchu. Gyda chyfradd ailgylchu o 64%, ein targed nesaf yw cyrraedd 70% cyn gynted â phosibl, a gallwn gyflawni hyn trwy annog preswylwyr i sicrhau eu bod yn ailgylchu popeth posibl o bob rhan o’r tŷ.

 

 

 

 

Gyda hysbysebion ar fyrddau biliau ledled y Deyrnas Unedig, ymgyrch ddigidol enfawr, a phartneriaethau gydag ystod o frandiau a sefydliadau yng Nghymru, Wythnos Ailgylchu eleni yw’r mwyaf eto; yn dathlu’r ffaith bod mwy a mwy ohonom yn ailgylchu. 

 

Mewn gwirionedd, fel cenedl, rydym yn ailgylchu mwy nag erioed, ond mae’n bwysig i ni wneud pethau’n iawn. Mae ymchwil newydd gan Ailgylchu dros Gymru yn dangos, er bod pobl Cymru yn dweud mai lles yr amgylchedd yw un o’u prif resymau dros ailgylchu, mae 84% o gartrefi yn ychwanegu un neu fwy o eitemau i’w ailgylchu na chaiff eu derbyn yn lleol, a gall hyn fod yn broblemus yn y broses ailgylchu. Hefyd, mae bron i hanner (49%) yn rhoi o leiaf un eitem yn y bin sbwriel cyffredinol a allai gael ei ailgylchu.

 

Yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni, rydym yn annog ein holl breswylwyr i wneud ychydig bach mwy i helpu Cymru gyrraedd y brig a dod yn genedl orau’r byd am ailgylchu.

 

Dyma rai cynghorion defnyddiol ar gyfer ailgylchu ym Mro Morgannwg:

    • Ailgylchwch ragor o’r pethau hyn: e.g. pecynau tetra megis chartonau sudd, bagiau plastig a haenen lynu.
  • Peidiwch byth a rhoi’r rhain yn y bin ailgylchu: pecynau creision, polystyren.    

 

Mae beth a sut rydym yn ailgylchu yn bwysig iawn. Mae ailgylchu eitem yn hytrach na’i daflu i’r bin sbwriel cyffredinol yn golygu y caiff ei drin yn y ffordd orau i’r amgylchedd, gan gadw deunyddiau’n ddefnyddiol a’u cadw allan o’r amgylchedd.

 “Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn ailgylchu popeth posibl o bob rhan o’u cartrefi, ac mae ein safle ar fwrdd arweinwyr y byd yn ategu hyn. Yma yn Fro Morgannwg, mae’r un peth yn wir – mae mwy a mwy ohonom yn ailgylchu, felly diolch i chi am wneud popeth posibl – daliwch ati gyda’r gwaith da! Gyda’n gilydd gallwn helpu Cymru i gyrraedd y brig.” - Catrin Palfrey, rheolwr ymgyrch, Ailgylcu dros Cymru

Gallwch ddysgu mwy am Ailgylchu dros Gymru a defnyddio’r Lleolydd Ailgylchu i ddarganfod beth i’w ailgylchu yn eich ardal chi ar y wefan www.ailgylchudrosgymru.org.uk