Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn gweithredu er mwyn diogelu cyflogeion sydd â salwch terfynol

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg, ynghyd â chynrychiolwyr o TUC (Cymru) ac undebau llafur lleol, wedi llofnodi'r Siarter  "Marw i Weithio", sy'n cadarnhau'r gefnogaeth, y diogelwch a'r arweiniad sydd ar gael i'r staff yn dilyn diagnosis angheuol.

 

  • Dydd Mercher, 05 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



Mae ymgyrch Marw i Weithio y TUC yn ceisio annog holl sefydliadau'r DU i ddiogelu cyflogaeth ymhellach a chydnabod salwch angheuol fel  "nodwedd a ddiogelir". 

 

Mae'r Siarter yn cydnabod bod angen cymorth a dealltwriaeth ar salwch angheuol yn ogystal â modd o leihau straen a gofid i staff. 

 

Drwy lofnodi, mae Cyngor y Fro wedi cydnabod yn ffurfiol ei ymrwymiad parhaus i ddiogelu staff â diagnosis, a sicrhau y gallant ddisgwyl cyfnod 'gwarchodedig' lle na ellir eu diswyddo o ganlyniad i'w cyflwr.   

 

Sut bydd y Cyngor yn cefnogi eu staff? 

 

  • Bydd gweithwyr â salwch marwol yn sicr y bydd y Cyngor yn eu cefnogi ar ôl eu diagnosio ac maen nhw'n cydnabod y gall gwaith diogel a rhesymol helpu i gynnal urddas, bod yn ffordd o ganolbwyntio ar rywbeth arall a gall fod yn therapiwtig.
  • Bydd y Cyngor yn rhoi sicrwydd gwaith i'w weithwyr, tawelwch meddwl a'r hawl i ddewis y ffordd orau o weithredu drostynt eu hunain ac ar gyfer eu teuluoedd, sy'n eu helpu drwy'r cyfnod heriol hwn gydag urddas a heb golled ariannol ormodol.
  •  Trwy lofnodi'r Siarter, mae’r Cyngor yn dangos eu cefnogaeth i ymgyrch Marw i Weithio’r TUC fel bod yr holl weithwyr sy'n brwydro yn erbyn salwch terfynol yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol mewn cyflogaeth ac yn cael eu budd-daliadau marwolaeth mewn swydd wedi’u diogelu i'r anwyliaid maent yn eu gadael ar ôl.

Rob-Thomas-signs-Dying-to-Work-Charter

 

 

 

 

Roedd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor, yn bresennol yn y digwyddiad arwyddo i roi cefnogaeth y Fro y tu ôl i'r ymgyrch, a dywedodd:

 

"Drwy gynnig y cymorth hwn, mae'r Cyngor am roi'r dewis i bob unigolyn sy'n brwydro cyflyrau angheuol o sut i dreulio'u misoedd olaf, a’r tawelwch meddwl i wybod bod eu swydd a budd-daliadau marwolaeth mewn swydd yn cael eu diogelu.


"Drwy lofnodi’r Siarter, a chefnogi'r ymgyrch Marw i Weithio, rydym hefyd yn annog cyflogwyr eraill i ymuno â'r ymgyrch er mwyn gwaredu’r rhwystrau a rhoi cymorth, arweiniad a thawelwch meddwl i weithwyr sy'n profi salwch ac yn brwydro yn ei erbyn. 

 

"Mae pob person sy'n brwydro yn erbyn salwch angheuol yn haeddu'r dewis o sut i dreulio'u misoedd olaf, a dyna pam mae ein sefydliad wedi llofnodi'r Siarter."

 

Dying-to-Work-Charter