Cost of Living Support Icon

 

Cynnig i adeiladu safle Sipsiwn a Theithwyr yn Hayeswood Road, y Barri – cwestiynau cyffredin 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wrthi’n ystyried creu safle parhaol i Sipsiwn a Theithwyr ar dir yn Hayeswood Road yn y Barri.

  • Dydd Llun, 17 Mis Medi 2018

    Bro Morgannwg



 

Nid oes unrhyw benderfyniadau pendant wedi’u gwneud ar y mater hwn, ond isod ceir atebion i gwestiynau cyffredin am y cynnig.

Civic Offices-007

“Fel Cyngor, mae’n rhaid i ni gynnig llety addas i bawb sydd yn ein cymuned, ac yn sicr, dydy grwpiau Sipsiwn a Theithwyr ddim yn eithriad,”

 

“Mae cartref yn hawl ddynol sylfaenol y mae gan bawb hawl arni. Mae’n hanfodol i’n lles ac mae’n rhoi amgylchedd i blant gael tyfu a datblygu ynddo.

 

“Wedi ystyried yn ofalus a thrafod â chynrychiolwyr o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol, rydyn ni’n credu ein bod wedi dod o hyd i safle ardderchog sy’n bodloni eu hanghenion penodol, er, bydd yn rhaid ystyried y cynnig yn ofalus yn y cam cynllunio. Gyda gobaith, gall y lleoliad hwn gynnig cartref parhaol iddynt, man sefydlog lle cân nhw eu gwerthfawrogi a bod yn aelodau cynhyrchiol o'n cymuned." - Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.

  • Pam ydych  chi wedi dewis y safle hwn?

    Roedd y broses o ddewis y safle a ffefrir yn gymhleth gan fod angen i’r lleoliad fodloni ystod o feini prawf penodol. Dewiswyd y safle hwn gan ei fod yn bodloni’r gofynion hynny a hefyd gan ei fod yn agos at y safle Sipsiwn a Theithwyr anawdurdodedig cyfredol ac amwynderau'r Barri.

     

     

    Roedd y gwaith o chwilio am safle addas yn canolbwyntio ar dir cyhoeddus neu ardaloedd preifat hysbys a oedd wedi’u cynnig yn flaenorol at y diben hwn.

     

    Diystyrwyd rhai posibiliadau am resymau’n ymwneud â’r perygl o lifogydd, amddiffyniadau a osodwyd ar amgylcheddau penodol a materion tir neu gyfreithiol eraill.

     

    O’r safleoedd na ddilëwyd ar y cam hwn, cafodd rhestr fer ei llunio y cafodd y safle a ffefrir ei ddewis ohoni.

  • Pam na all y grŵp aros yn y safle cyfredol neu symud i’r hen safle CA?

    Mae’r safle cyfagos, y mae Teithwyr yn byw arno, yn wersyll anawdurdodedig y mae’r Cyngor wedi ystyried ei ddatblygu yn safle awdurdodedig parhaol lle y gallent aros. Yn anffodus, yn ystod proses y Cynllun Datblygu Lleol, mynnodd Archwilydd Cynllunio Llywodraeth Cymru fod y Cyngor yn diystyru’r safle hwn gan ei fod wedi’i leoli ym mharth llifogydd C2 ac yn cynnig mynediad gwael i gerbydau brys. Felly nid oes gan y trigolion cyfredol ganiatâd cynllunio i ddefnyddio’r tir at ddibenion preswyl.

  • Fydd rhaid i drigolion y safle dalu’r Dreth Gyngor a thaliadau eraill?

    Bydd teithwyr sy’n byw yn y safle yn gorfod talu’n union yr un taliadau a threthi ag unrhyw drigolyn arall.  Mae hyn yn golygu y byddant yn talu’r Dreth Gyngor, rhent llain, biliau nwy, dŵr, trydan a’r holl gostau eraill sy’n gysylltiedig â byw yn y gymuned.

  • Pam na ymgynghorwyd â thrigolion lleol ar y cynlluniau hyn a sut gallaf i eu gwrthwynebu?

    Nid oes unrhyw benderfyniadau pendant wedi’u gwneud i ddatblygu’r safle. Cyn bo hir byddwn yn lansio ymgynghoriad ar gynigion sy’n cynnwys digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned ac rydym yn annog yr holl bartïon â diddordeb i gyfrannu at y broses honno.  Mae modd mynegi barn yn bersonol yn y digwyddiad hwn, trwy lenwi arolwg ar-lein neu drwy anfon e-bost i gyfeiriad dynodedig.  Ystyrir yr holl sylwadau yn llawn cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y mater hwn. Gwneir y trefniadau ar gyfer y digwyddiad hwn maes o law ac anfonir llythyrau i gartrefi a busnesau sy'n agos at Hayeswood Road gyda’r manylion.

 

  • Beth yw’r cam nesaf yn y broses?

    Bydd y safle arfaethedig yn destun Ymgynghoriad Cyn Cais a gaiff ei gynnal gan adran dai'r Cyngor sy'n gweithredu fel y datblygwr.  Mae hwn yn ofyniad statudol ar gyfer unrhyw gynigion yr ystyrir eu bod yn y dosbarthu ‘datblygiad mawr’. Bydd y broses hon yn galluogi partïon â diddordeb i wneud sylwadau ar fersiwn drafft o’r cais cynllunio dros gyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Bydd y cais cynllunio drafft yn cynnwys holl ddogfennau'r cais cynllunio megis cynlluniau graddedig, arolygon ac adroddiadau technegol.  Yn rhan o’r ymgynghoriad 28 diwrnod hwn, gall y datblygwr ddewis gynnal digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned lle y caiff partïon â diddordeb y cyfle i siarad â’r datblygwr ac edrych ar ddogfennau'n ymwneud â'r cais drafft.

     

    Yn dilyn yr ymgynghoriad 28 diwrnod, rhaid i’r datblygwr lunio Adroddiad Cyn Cais y mae’n rhaid iddo ddangos sut mae’r datblygwr wedi cynnal yr ymgynghoriad, nodi’r problemau a nodwyd gan ymatebwyr a sut mae’r sylwadau wnaed wedi’u hystyried yn y cynnig terfynol. Rhaid cyflwyno’r adroddiad hwn ochr yn ochr ag unrhyw gais cynllunio dilynol sy’n cael ei wneud i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i ddilysu’r cais. Ar ôl cwblhau’r Broses Cyn Cais, gall y datblygwr wedyn gyflwyno cais cynllunio llawn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol benderfynu arno. Pan gaiff cais cynllunio llawn ei gyflwyno, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cynnal ymgynghoriad 21 diwrnod i alluogi partïon â diddordeb i wneud sylwadau ar y cais. Wedyn caiff y sylwadau eu hystyried wrth benderfynu ar y cynnig.  

     

    Os caiff y datblygiad ei gymeradwyo, rhagwelir y caiff y safle ei ddefnyddio o 2020 ymlaen.

 

  • Beth fydd yn digwydd os bydd gwerth fy nhŷ yn gostwng?

    Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio’n niweidiol ar brisiau tai yn yr ardal.

  • A ganiateir ceffylau ar y safle?

    Na. Os caiff y safle hwn ei ddatblygu, bydd at ddefnydd preswyl yn unig ac ni fydd yn cynnwys unrhyw stablau.  Bydd Adran Dai’r Cyngor yn rheoli’r lleiniau yn yr un modd y mae’n rheoli ei dai cyngor ac felly dim ond anifeiliaid anwes domestig  y caniateir i’r trigolion eu cadw ar y safle.

     

  • Fydd y datblygiad hwn yn niweidio bywyd gwyllt lleol?

    Cyn dechrau unrhyw ddatblygiad, mae’n rhaid cynnal arolygon ecolegol ar y tir. Felly, os aiff y cynnig yn ei flaen, cymerir gofal i sicrhau nad yw’n cael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt lleol. Ymhlith mesurau eraill, byddai hyn yn cynnwys symud nythfa o nadroedd defaid i Lynnoedd Cosmeston.

  • Fydd trigolion y safle hwn yn destun yr un rheolau ynghylch ailgylchu a gwastraff?

    Yn yr un modd â threthiant, bydd Teithwyr sy’n byw yn y safle yn dilyn yr un rheolau sy’n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff ag aelodau eraill o’r gymuned.

  • Faint o garafanau fydd ar y safle?

    Mae lle i 20 llain ar y safle. Mae llain yn ddigon mawr i un aelwyd a’i garafán. 

  • Am ba hyd y caniateir i bob teithiwr aros?

    Mae hwn yn safle parhaol felly ystyrir bod pob llain yn gartref i'r teithiwr yn yr un modd â thŷ rhent. Felly, bydd y trigolion yn gwneud cytundeb rhent ar gyfer eu llain a bydd disgwyl iddynt fyw ar y safle am gyfnod hir. Byddant hefyd yn gallu teithio a dychwelyd yno pryd bynnag yr hoffent.

  • Pa mor bell y bydd carafanau o'r tai?

    Y tai preswyl cyfredol ar hyd Hayes Lane fydd yr eiddo agosaf at y safle arfaethedig.  Byddai tua 9 metr rhwng ffin y llain arfaethedig sy’n agosaf at ffin eiddo.  Byddai’r rhan fwyaf o’r lleiniau arfaethedig tua 15 metr o’r eiddo preswyl cyfredol ar hyd Hayes Road. 

  • Fydd un o swyddogion y Cyngor ar y safle trwy’r amser?

    Caiff y safle ei reoli gan adran dai’r Cyngor yn yr un modd y mae’n rheoli cartrefi’r Cyngor i sicrhau ei fod yn rhedeg yn ddidrafferth.  Bydd swyddog ar waith ar y safle, ond nid yw’r union oriau y bydd yn gweithio wedi’u cadarnhau eto.

  • Fydd nifer y lleiniau’n cynyddu tu hwnt i 20?

    Na fydd, 20 yw uchafswm y lleiniau fydd ar gael. 

  • Fydd y datblygiad hwn yn denu Teithwyr o rywle arall?

    Mae ar y Cyngor ddyletswydd i ofalu am holl aelodau’r gymuned ac yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014 mae angen iddo ddarparu rhywle i Sipsiwn a Theithwyr fyw ynddo.

     

    Dylunnir y datblygiad hwn i ateb galw yn y Fro felly rhoddir blaenoriaeth i'r bobl hynny sydd eisoes yn byw yn y Sir. Os bydd unrhyw leiniau gwag, ystyrir eu gosod i unigolion sydd o'r tu allan i'r Sir a chaiff rhestr aros ei llunio. 

  • Os yw’r Cyngor yn helpu Teithwyr, pam nad yw mwy yn cael ei wneud i fynd i’r afael â digartrefedd? 

    Mae ar y Cyngor ddyletswydd statudol i atal a lleihau digartrefedd.  Mae'r tîm datrysiadau tai yn yr adran dai yn parhau i wneud y gwaith hwn yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014.

     

    Mae’r adran yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cymdeithasau tai a datblygwyr preifat ac wedi dechrau ar ei raglen adeiladu tai Cyngor ei hun er mwyn sicrhau tai fforddiadwy ychwanegol i'r bobl hynny sydd mewn angen ym Mro Morgannwg.  Mae hyn ar ben sicrhau tai rhent preifat gan landlordiaid preifat.

  • O ystyried y pwysau ariannol sydd ar Gyngor Bro Morgannwg yn dilyn gostwng ei setliad cyllid, sut mae’n gallu talu am ddatblygu safle Sipsiwn a Theithwyr?

    Oherwydd y gofynion statudol a osodwyd ar bob Cyngor yng Nghymru i fodloni anghenion tai Sipsiwn a Theithwyr yn ei ardal, mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyllid cyfalaf a ddiogelir ar gyfer datblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac ar gyfer uwchraddio safleoedd cyfredol.

     

    Yn dilyn yr ymgynghoriad, os caiff cais cynllunio llwyddiannus ei wneud i ddatblygu safle Sipsiwn a Theithwyr ym Mro Morgannwg, bydd y Cyngor yn dibynnu ar wneud cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i dalu am y gost o adeiladu’r safle.

 

  • Os bydd trigolion safle anawdurdodedig y Sili yn gwrthod symud i’r safle newydd yn y Barri, pwy fydd yn symud iddo?

    Os bydd Teithwyr yn gwrthod symud i'r safle newydd neu os na fydd cais y Cyngor i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf yn llwyddiannus, mae nifer o bosibiliadau ar gyfer y tir a byddwn yn ailystyried ein sefyllfa. 

  • Oni fydd trigolion y safle yn creu risg o drosedd ac anhrefn?

    Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl sy’n awgrymu bod y Teithwyr dan sylw yn bygwth diogelwch neu eiddo trigolion lleol eraill. Nhw yw'r un grŵp sydd eisoes yn byw ar dir 500 metr i lawr y ffordd yn y Sili ac nid yw'r Cyngor yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu weithgareddau troseddol sy'n gysylltiedig â nhw.