Cost of Living Support Icon

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ardal sy’n cynnwys y deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru.  Mae’r awdurdodau lleol yn y rhanbarth wedi uno i fynd i’r afael â materion rhanbarthol a gweithredu’r Fargen Ddinesig. 

 Prifddinas-ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys Bro Morgannwg a 9 awdurdod lleol arall:  Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tydfil, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, a Thorfaen, yn gweithio ynghyd i ddarparu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2016 a 2025. 

 

Bydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn datblygu arweinyddiaeth cryfach a mwy effeithiol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan alluogi'r deg arweiniwr awdurdod lleol i uno’r broses gwneud penderfyniadau, dod ag adnoddau ynghyd a gweithio’n fwy effeithiol â busnesau lleol.  

 

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhaglen £1.2 biliwn a fydd dros ei hoes yn darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac yn creu £4 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat.

 

Disgwylir i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd greu twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n darparu cysylltedd trafnidiaeth gwell, gan gynyddu lefelau sgiliau, cefnogi pobl i mewn i waith, a rhoi’r cymorth sydd ei angen i fusnesau arloesi a thyfu.

 

Darperir arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol gan Fwrdd Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ym mis Tachwedd 2013.  Mae’r Bwrdd yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o’r gymuned busnes, sectorau addysg ac awdurdodau lleol i roi cyngor ar ddatblygiad a thwf y Rhanbarth.

 

Mae Bwrdd Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd wedi cyhoeddi ei weledigaeth strategol ar gyfer y Rhanbarth.   Yn dwyn yr enw " Powering the Welsh Economy”, mae’n canolbwyntio ar y cyfle ar gyfer alinio a chydweithredu rhanbarthol gwell o gwmpas prif themâu sy'n cynrychioli'r sylfaen ar gyfer twf ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:  

  • Cysylltedd: Darparu strwythur integredig sy’n caniatáu symudiad effeithiol, effeithlon a chynaliadwy o bobl, nwyddau a gwybodaeth, mewn modd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Sgiliau: Mae ein rhanbarth a’n pobl yn cael eu cydnabod yn fyd-eang am gael y sgiliau am oes sy’n diwallu anghenion ein busnesau a’n cymunedau. 
  • Arloesedd a thwf: Cefnogi cymuned fusnes ffyniannus â chydnabyddiaeth rhyngwladol, a yrrir gan ddiwylliant entrepreneuraidd ac ymchwil academaidd arweiniol. 
  • Hunaniaeth: Adeiladu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fywiog a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n gyfystyr ag ansawdd bywyd. 

  

 << Dychwelyd i'r Dudalen Cymorth Busnes