Troseddau a Dirwyon
Mae Adran 1(2) y Ddeddf yn ei gwneud yn drosedd i feddiannwr unrhyw dir i beri neu ganiatáu i unrhyw ran o’i dir gael ei ddefnyddio fel safle carafanau oni bai ei fod yn meddu ar drwydded safle cyfredol ar gyfer y tir.
Mae Adran 9 (1) y Ddeddf yn ei gwneud yn drosedd i ddeiliad trwydded safle fethu cydymffurfio ag unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â’r drwydded. Os bydd yr awdurdod lleol yn fodlon bod tor amod o dan drwydded safle wedi digwydd, yn y lle cyntaf gall gychwyn achos yn Llys yr Ynadon.
Os, ar ôl cael ei euogfarnu o dorri amod(au) trwydded safle ar dri achlysur neu fwy, bydd deiliad trwydded safle yn parhau i dorri amodau’r drwydded, mae’n bosibl y bydd yr awdurdod lleol, yn hytrach na chymryd camau cyfreithiol pellach, yn gwneud cais i Lys yr Ynadon i ddiddymu ei drwydded.
Pan geir gorchymyn am ddiddymiad, ni chaiff trwydded arall ei dosbarthu ynglŷn â thir i’r un deiliad am dair blynedd o leiaf.