Gwybodaeth Ategol
Ni all y Cyngor roi caniatâd nes bod hysbysiad wedi’i gyhoeddi:
- drwy roi hysbysiadau mewn mannau amlwg yn neu ger y lleoliad y mae'r cynnig yn ymwneud ag ef
- drwy gyflwyno copi o’r hysbysiad i berchnogion a meddianwyr unrhyw eiddo y mae’r Cyngor yn ystyried yn un a fydd yn gweld effaith
Ymgynghoriad / Sylwadau
Nid oes modd rhoi caniatâd tan o leiaf 28 diwrnod ar ôl i’r hysbysiadau gael eu cyhoeddi, ac hyd yn oed wedyn, dim ond os nad oes unrhyw sylwadau’n cael eu derbyn. Os gwneir unrhyw sylwadau, bydd yr Aelodau Pwyllgor perthnasol yn ystyried y mater.
Bydd y Cyngor yn ymgynghori gyda'r:
- Heddlu
- Adran Briffyrdd
- Iechyd yr Amgylchedd
- Cynghorwyr Lleol
- Cyngor y Dref
- Yr Arweinydd
- Aelodau Lleol dros Hamdden a Thwristiaeth
Ardaloedd Cerddwyr
Pan gynigir rhoi caniatâd i osod byrddau, cadeiriau neu gelfi eraill ar briffyrdd nad oes gan gerbydau hawl i deithio arnynt yn sgil Orchymyn Rheoleiddio Traffig (h.y. ardaloedd cerddwyr) fel arfer, byddai’r caniatâd yn berthnasol pan nad oes gan gerbydau hawl i deithio yno oherwydd y gorchymyn cyfreithiol. Byddai hyn ar sail diogelwch ar y ffyrdd. Fel arfer, gellid defnyddio cadeiriau neu gelfi eraill ar droedffyrdd llydan, ond rhaid cynnal llwybrau cerddwyr digonol a mannau clir ger y lôn gerbydau bob tro.