Cost of Living Support Icon

Dileu Gofyniad ar gyfer Goruchwylydd Safle Dynodedig (DPS)

Dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mae deddfwriaeth bellach yn galluogi dileu’r gofyniad ar gyfer Goruchwylydd Safle Dynodedig mewn safleoedd megis neuaddau pentref a safleoedd cymunedol megis neuaddau eglwysi a chapeli (a rhannau ohonynt).

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

Pwyllgor rheoli’r safle yn unig a all wneud cais dan y weithdrefn hon. Rhaid i'r ymgeiswyr roi enwau prif swyddogion y pwyllgor rheoli ar y ffurflen gais. Rhaid i’r awdurdod trwyddedu fod yn fodlon bod y trefniadau ar gyfer rheoli’r safle gan y pwyllgor neu fwrdd yn ddigonol i sicrhau y goruchwylir gwerthu alcohol ar y safle'n ddigonol.

 

Ceisiadau newydd ar gyfer trwydded safle (safle cymunedol)

Dylai’r safleoedd cymunedol hynny sydd am wneud cais am awdurdod i werthu alcohol am y tro cyntaf gynnwys y canlynol:

  • ffurflen ar gyfer dileu’r gofyniad ar gyfer Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig
  • cais newydd am drwydded safle neu gais i amrywio
    • Nid oes angen ffi heblaw am y ffi ar gyfer cais newydd neu amrywiad, y mae'r ddau ohonynt yn seiliedig ar werth ardrethol.

Safle cymunedol gyda thrwydded safle cyfredol i werthu alcohol

Nid yw safleoedd cyfredol wedi’u heithrio o ofynion amodau gorfodol o ran Goruchwylwyr Safleoedd Dynodedig a thrwyddedau personol. Os oes gan safle cymunedol drwydded safle i werthu alcohol yn barod, a’i fod am fanteisio ar ofynion mwy llac o ran Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig, dylai’r pwyllgor rheoli wneud cais i gynnwys yr amod trwydded arall yn lle’r amod gorfodol arferol trwy gyflwyno’r ffurflen ddynodedig ynghyd â’r ffi ddynodedig. 

 

Cydsyniad Dealledig

Ie. Mae hyn yn golygu yr ystyrir bod eich cais wedi’i gwblhau a bod ein cofnodion wedi’u diweddaru yn unol â hynny os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Y cyfnod targed yw 14 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Gall safleoedd cymunedol wneud cais nawr i ddileu amodau gorfodol safonol dan adran 19 Deddf Trwyddedu 2003 o'u trwydded safle. 

 

Rhaid i bob safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol, dan amodau adran 19, fod â Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig a rhaid i berson sydd â thrwydded bersonol werthu'r holl alcohol neu roi awdurdod i wneud hynny.

 

Bydd y newid hwn yn galluogi safleoedd cymunedol i weithredu heb Oruchwylydd Safleoedd Dynodedig ac i werthu alcohol ar safle o’r fath heb awdurdod deiliad y drwydded bersonol.

 

Ffioedd

Y ffi i wneud y cais hwn ar gyfer safleoedd trwyddedig cyfredol yw £23.00. Ni ad-delir y ffi hon.

 

Nid oes ffi am geisiadau newydd yn gofyn am ddileu gofyniad heblaw am y ffi ar gyfer cais newydd am drwydded safle neu i amrywio cais.

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni Ceisiadau a Fethodd

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw un sydd â chwyn oherwydd gwrthodiad i gael trwydded apelio i Magistrates Courts a all roi’r fath gyfarwyddiadau ynglŷn â’r drwydded neu ei amodau ag y mae’n eu gweld yn briodol.

  •  Deiliad Trwydded yn Unioni

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon ar unrhyw amodau sy’n berthnasol i drwydded apelio i'r Magistrates Courts a all gyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel ag y mae’n eu gweld yn briodol.

  •  Cwyn Cwsmer

    Mewn achosion o gwyno, hoffem argymell mai rhyngoch chi a’r masnachwr y dylai’r pwynt cyswllt cyntaf gael ei gynnal, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf darparu. 

     

    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.

      

    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â UK European Consumer Centre.

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau