Cost of Living Support Icon

Trosglwyddo Trwydded Safle

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i drwydded safle gael ei throsglwyddo i berson/cwmni arall. Fel arfer gwneir hyn pan fydd y safle wedi’i werthu o un person/cwmni i un arall.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU 

 

Mae trosglwyddo’r drwydded ond yn newid hunaniaeth deiliad y drwydded ac nid yw’n newid y drwydded mewn unrhyw ffordd arall.

  

Ffurflenni Cais

 

 

Gwneud Cais Ar-lein

      

Cydsyniad deiliad trwydded y safle i drosglwyddo

 

 

Gwneud Cais Ar-lein

   

Os oes gennych drwydded am beiriant hapchwarae neu os ydych chi wedi rhoi hysbysiad ar gyfer defnyddio gemau hapchwarae yn eich safle bydd hefyd angen i chi wneud cais am hysbysiad neu drwydded newydd 

 

 

Y Broses Ymgeisio

I wneud cais mae’n rhaid i chi gyflwyno:

  • ffurflen gais briodol
  • y drwydded safle (neu ran briodol y drwydded) neu, os nad yw hynny'n ymarferol, trwy ddatganiad o'r rhesymau dros fethu darparu'r drwydded (neu ran ohoni).
  • y ffi ofynnol (ffi am wneud cais yw hon na ellir ei had-dalu)
  • ffurflen cydsynio wedi’i llofnodi gan ddeiliad y drwydded eiddo bresennol neu ddatganiad o ran pam nad yw'n amgaeedig    
  • Prawf o hawl i fyw a gweithio – Gweler y nodiadau canllaw am ragor o wybodaeth

 

Os oes gennych drwydded am beiriant hapchwarae neu os ydych chi wedi rhoi hysbysiad ar gyfer defnyddio gemau hapchwarae yn eich safle bydd hefyd angen i chi wneud cais am hysbysiad neu drwydded newydd

 

Rhaid gwneud cais i drosglwyddo trwydded safle i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal lle lleolir y safle.

Mae’r Ddeddf hon yn darparu mecanwaith, sy’n galluogi'r trosglwyddiad i ddod i rym dros dro yn syth cyn gynted ag y mae’r awdurdod trwyddedu yn ei dderbyn, nes bydd yn cael ei bennu neu ei ddiddymu'n ffurfiol. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau nad oes unrhyw ymyrraeth i fusnes arferol yn yr eiddo.

 

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd anfon cais am drosglwyddo trwydded safle i’r awdurdod trwyddedu yng Nghyngor Bro Morgannwg ac un at brif swyddog yr heddlu/ Swyddfa Gartref. Os yw’n gwneud cais trwy UKWelcomes neu FS4B bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am anfon copi o’r cais i’r heddlu/Swyddfa Gartref.

Mae gan Brif Swyddog yr Heddlu/Swyddfa Gartref 14 diwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y cânt wybod amdano, i ystyried y trosglwyddiad.

 

Gallant naill ai:

  • cyhoeddi hysbysiad gwrthwynebu os byddant yn credu bydd y trosglwyddiad o bosibl yn tanseilio’r *amcan atal troseddau fel y rhestrir yn Neddf Trwyddedu 2003 neu
  • beidio â gwrthwynebu’r cais

Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, bydd yr awdurdod trwyddedu yn trosglwyddo'r drwydded yn unol â'r cais, diwygio'r drwydded yn unol â hynny a'i chyflwyno i'r deiliad newydd. Fel arfer caiff hyn ei wneud o fewn 7 niwrnod o gau’r cyfnod ymgynghori 14 diwrnod.


Felly, ni ddisgwylir iddo gymryd mwy na 21 diwrnod yn olynol i ymdrin â chais am drosglwyddo (os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad), gan ddechrau gyda derbyn y gwaith papur cywir (gan gynnwys prif swyddog yr heddlu/ Swyddfa Gartref) a'r ffi cysylltiedig.

Os caiff gwrthwynebiad ei dderbyn gan brif swyddog yr heddlu / y Swyddfa Gartref, gwneir trefniadau i Is-Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor glywed y cais a’r hysbysiad gwrthwynebu o fewn 20 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y cyfnod y mae gan brif swyddog yr heddlu / y Swyddfa Gartref hawl i roi hysbysiad.

 

Gwneud Penderfyniad

Os caiff y cais ei gymeradwyo neu ei wrthod, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd, a phrif swyddog yr heddlu / y Swyddfa Gartref.

Pan fydd gwrandawiad, mae’n rhaid i’r pwyllgor roi rhesymau clir a chynhwysfawr dros bennu’r trosglwyddiad yn y pen draw  Mae manylion ynghylch dyddiad ac amser y gwrandawiad ynghyd â manylion y gweithdrefnau sydd i’w dilyn i gael eu hanfon at yr ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu/ y Swyddfa Gartref o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y gwrandawiad.

Rhaid i’r ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu/ Swyddfa Gartref roi gwybod i Gyngor Bro Morgannwg o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn dechrau’r gwrandawiad yn nodi:

  • p'un ai a ydynt yn bwriadu mynychu'r gwrandawiad eu hunain
  • p’un ai a fydd rhywun arall yn eu cynrychioli (e.e. cyfreithiwr / cynghorydd / AS)
  • p'un ai a ydynt yn credu nad oes angen cynnal gwrandawiad (er enghraifft, os daethpwyd i gytundeb cyn gwrandawiad ffurfiol)
  • Unrhyw gais i berson arall fynychu’r gwrandawiad, gan gynnwys sut y gallant fod o fudd i’r awdurdod trwyddedu o safbwynt y cais 

Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal, oni bai bod yr awdurdod trwyddedu, yr ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu / y Swyddfa Gartref (a roddodd wybod) yn cytuno drwy gytuno nad oes angen gwrandawiad.

Os bydd y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen, byddai ystyriaeth y pwyllgor yn gyfyngedig i gyhoeddi Amcan Atal Troseddau yn unig.

Byddai’r baich ar brif swyddog yr heddlu/ y Swyddfa Gartref i ddangos i’r pwyllgor bod seiliau da dros gredu y byddai trosglwyddo'r drwydded yn tanseilio'r Amcan Atal Troseddau.  Yn yr achos hwn, byddai’r pwyllgor yn gwrthod y trosglwyddiad. Fel arall câi’r trosglwyddiad ei gymeradwyo.

 

Cydsyniad Mud

Ie. Mae hyn yn golygu bydd eich cais cael ei ystyried wedi’i gwblhau a’n cofnodion wedi’u diweddaru os na fyddwch yn clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Yr amser targed yw 14 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd 

  • Mae’n rhaid i unigolyn sy’n gwneud cais am drosglwyddiad fod yn 18 oed neu’n hŷn 
  • Mae’n rhaid i gais ddod ynghyd â’r drwydded safle neu, os nad yw hynny'n ymarferol, datganiad o'r rhesymau dros fethu â darparu'r drwydded
  • Mae’n rhaid i gais ddod ynghyd â ffurflen cydsynio gan ddeiliad presennol y drwydded safle. Os nad yw hyn yn bosibl, mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddangos ei fod/ei bod wedi cymryd pob cam rhesymol i gael y cydsyniad hwnnw
  • Rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i Brif Swyddog yr Heddlu'r ardal y mae'r safle ynddi. 

 

Ffioedd

Rhaid cyflwyno cais wedi'i gwblhau gyda ffi o £23.00. Nid oes modd cael arian yn ôl am y ffi hwn.

 

 

Cwynion a Chamau Unioni Eraill

  •  Camau Unioni yn Dilyn Cais Aflwyddiannus

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn:  01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam yn sgil y mae'r penderfyniad i wrthod rhoi trwydded iddo apelio i’r Llys Ynadon a all roi cyfarwyddiadau penodol ynghylch y drwydded neu ei amodau fel y gwelo'n ddoeth. 

  •  Camau Unioni – Deiliaid Trwydded

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn:  01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam yn sgil y mae'r penderfyniad i wrthod rhoi trwydded iddo apelio i’r Llys Ynadon a all roi cyfarwyddiadau penodol ynghylch y drwydded neu ei amodau fel y gwelo'n ddoeth. 

  •  Cwynion gan Gwsmeriaid

    Byddem yn argymell bob amser eich bod yn cysylltu â'r masnachwr yn y lle cyntaf, o ddewis drwy lythyr gyda phrawf postio. 

     

    Os na lwyddodd hynny a’ch bod yn y DU bydd Cyswllt Defnyddwyr yn gallu rhoi cyngor i chi.    

     

    Os oes gennych gŵyn mewn cysylltiad â lleoliad ledled Ewrop cysylltwch â Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd DU

  •  Camau Eraill

    Gall prif swyddog heddlu yr ardal y lleolir y safle ynddi wneud cais i'r awdurdod trwyddedu i gynnal adolygiad o’r drwydded os yw’r safle wedi’i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch swyddog wedi rhoi tystysgrif yn datgan ei fod o’r farn bod y safle yn gysylltiedig ag un ai trosedd difrifol neu anrhefn neu’r ddau.  Cynhelir gwrandawiad a gall deiliad y drwydded a phartïon eraill â diddordeb gyflwyno sylwadau.

     

    Gall prif swyddog heddlu gyflwyno hysbysiad i’r awdurdod trwyddedu os yw o’r farn y gallai trosglwyddo trwydded i rywun arall, dan amrywiad i gais, danseilio amcanion atal trosedd.  Dylid cyflwyno’r hysbysiad dan sylw cyn pen 14 diwrnod o gael eu hysbysu o’r cais.

     

    Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol gyflwyno sylwadau mewn perthynas â chais am drwydded neu ofyn i’r corff trwyddedu adolygu trwydded.

     

    Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded safle. Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal awdurdod trwyddedu.

     

    Gall prif swyddog heddlu ofyn i'r awdurdod trwyddedu gynnal adolygiad ar y drwydded os yw’r safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch swyddog o'r heddlu wedi cyflwyno tystysgrif yn datgan, yn ei farn ef, bod y safle yn gysylltiedig â throsedd difrifol, anrhefn neu'r ddau.

    Gall parti â diddordeb neu awdurdod perthnasol a gyflwynodd sylwadau apelio yn erbyn rhoi trwydded neu yn erbyn unrhyw amod, amrywiad, gweithgarwch trwyddedadwy neu benderfyniad gan oruchwylydd safle.

     

    Rhaid cyflwyno apeliadau i Lys Ynadon cyn pen 21 diwrnod o’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o benderfyniad