Cost of Living Support Icon

Amrywio Trwydded Safle

Lle bo deiliad trwydded safle yn dymuno diwygio’r drwydded safle, mae’r Ddeddf yn caniatáu, yn y rhan fwyaf o achosion, i gais amrywio gael ei wneud yn hytrach na mynnu bod cais am drwydded safle newydd yn cael ei wneud. 

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol holltwn, Y Barri, CF63 4RU

  • amrywio’r oriau pan ganiateir gweithgaredd trwyddedadwy
  • ychwanegu neu dynnu gweithgareddau trwyddedadwy cymwys y clwb
  • newid, ychwanegu neu ddileu amodau mewn tystysgrif 
  • addasu unrhyw agwedd ar osodiad y safle a ddangosir ar y cynllun
  • Ni ellir defnyddio amrywiad i amrywio trwydded er mwyn:
  •       - ymestyn trwydded â therfyn amser; neu i
  •       - drosglwyddo’r drwydded o un safle i un arall

 

 

Y Broses Ymgeisio 

Rhaid gyrru’r cais gyda’r drwydded safle (neu ran berthnasol y drwydded) neu, os nad yw hynny’n ymarferol, drwy ddatgan y rhesymau am fethu a chyflwyno’r drwydded (neu ran ohono).

 

Rhaid gwneud cais i amrywio tystysgrif safle clwb i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal lle lleolir y safle.


Gyda’r cais rhaid cynnwys:

  • y ffi angenrheidiol (this fee is an application fee and is not refundable)
  • ffurflen gais perthnasol
  • cynllun y safle  (if variation relates to the layout of the premises)
  • cadarnhad bod y cais wedi ei gyflwyno'r un pryd i’r awdurdodau cyfrifol perthnasol
  • Os am wneud cais i amrywio trwydded safle ar gyfer llong rhaid i chi hefyd ymgynghori ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. 

Rhaid gosod hysbysiad yn glir ar y safle a rhaid iddo hefyd gael ei gyhoeddi mewn papur lleol.

 

  • Dal ac oedi ceisiadau electronig (canllaw s182)

    Os yw cais wedi ei gyflwyno ar benwythnos, mae’n bosib y gall yr hysbysiad yn hysbysebu’r cais (lle bo’n berthnasol) fod eisoes wedi ei arddangos y tu allan i’r safle erbyn yr adeg y bydd yr awdurdod trwyddedu yn lawrlwytho’r cais.

     

    Mae’r Llywodraeth felly yn argymell os yw awdurdod trwyddedu yn dal cais, dylai roi gwybod i’r sawl wnaeth y cais y dylid arddangos yr hysbysiad gwreiddiol (neu os yn angenrheidiol, yr un wedi ei ddiwygio) tan ddiwedd y cyfnod adolygu.

     

    Felly ni ddylai’r sawl sy’n gwneud cais hysbysebu’r cais mewn papur lleol tan iddynt dderbyn cadarnhad gan yr awdurdod trwyddedu fod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi dod i law gyda’r cais. Golyga’r cyngor hyn nad yw ymgeiswyr yn mynd i gost heb fod angen.

  • Awdurdodau Cyfrifol

    Mae’r rhain yn gyrff cyhoeddus y dylid eu hysbysu’n llawn ynghylch ceisiadau ac sydd â’r hawl i wneud sylwadau wrth yr awdurdod trwyddedu mewn perthynas â’r cais. Mae pob sylw a wneir gan awdurdod cyfrifol yn sylw perthnasol os yw’n ymwneud ag effaith y cais ar yr amcanion trwyddedu.


    Yr awdurdodau cyfrifol yw

     

    Wrth gyflwyno’r cais i’r Awdurdod Trwyddedu, rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno copïau o’r cais a’r cynllun ar yr un pryd i’r holl awdurdodau cyfrifol perthnasol. Nid yw’r cais yn ddilys hyd oni bo hyn wedi ei gwblhau.

     

    Os yn gwneud cais ar-lein drwy gyfrwng UK Welcomes neu Flexible Support For Business, yna Cyngor Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am anfon y copïau perthnasol i’r awdurdodau cyfrifol.

     

    Mae gan yr awdurdodau cyfrifol 28 diwrnod olynol i ystyried y cais a gyflwynwyd iddynt. Mae gan aelodau’r cyhoedd / partïon â diddordeb hefyd gyfnod o 28 diwrnod i ystyried gwneud sylwadau perthnasol – gw. ‘Sylwadau’.

  • Penderfyniad

    Pan gaiff cais ei dderbyn neu ei wrthod, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r ymgeisydd, yr awdurdodau cyfrifol perthnasol ac i bartïon â diddordeb a gyflwynodd sylwadau llwyddiannus ac i brif swyddog heddlu’r ardal lle mae’r safle wedi ei leoli.

    Pan fo gwrandawiad, rhaid i’r pwyllgor roi rhesymau clir a chyflawn dros ei benderfyniad ar y cais yn y pen draw.

  • Sylwadau

    Ceir gwrandawiad ar gais dim ond os derbynnir gwrthwynebiad o bwys nad sy’n flinderus neu sylwadau gan bartïon â diddordeb neu gan awdurdodau cyfrifol:

    • Partïon â diddordeb yw busnesau neu breswylwyr yng nghyffiniau’r safle a phobl sy’n cynrychioli busnesau neu breswylwyr.
    • awdurdodau cyfrifol yw fel y disgrifir uchod

     

    Fodd bynnag, rhaid i’r sylwadau hyn gael eu hystyried gan yr awdurdod trwyddedu er mwyn cael effaith ar hyrwyddo un neu fwy o’r amcanion trwyddedu.

     

    Mae’n bwysig nodi y gall sylwadau fod yn negyddol (gwrthwynebu) neu yn gadarnhaol (o blaid) y cais a dylent gael eu gwneud yn ysgrifenedig neu ar e-bost.

     

    Pan na cheir gwrthwynebiadau neu sylwadau perthnasol gan awdurdodau cyfrifol neu bersonau eraill, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ganiatáu'r dystysgrif safle clwb ar y 29ed diwrnod olynol yn amodol yn unig ar yr amodau gorfodol a’r atodlen weithredu.

    Os caiff sylwadau perthnasol eu derbyn, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad i ystyried y sylwadau oni bai fo cyfryngu llwyddiannus wedi digwydd.

  • Cyfryngu

    Mae cyfryngu yn llwyddiannus pan fo’r holl bartïon, h.y. yr ymgeisydd, pob parti sy'n gwneud sylwadau perthnasol a chyda chydsyniad yr awdurdod trwyddedu; yn cytuno fod y rhesymau dros y sylwadau wedi eu datrys ac y gall y rhain gael eu hadlewyrchu yn y drwydded gaiff ei rhoi, h.y. yr atodlen weithredu/amodau’r drwydded.

  • Gwrandawiad (cyfryngu’n aflwyddiannus)

    Mae manylion ynghylch dyddiad ac amser y gwrandawiad ynghyd â manylion y gweithdrefnau sydd i’w dilyn i gael eu hanfon at yr ymgeisydd, yr awdurdodau cyfrifol a phersonau eraill o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y gwrandawiad.

     

    Rhaid i’r ymgeisydd a’r partïon a ddisgrifiwyd uchod roi gwybod i Gyngor Bro Morgannwg o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn dechrau’r gwrandawiad yn nodi:

    • a fyddant yn mynychu’r gwrandawiad yn bersonol
    • a fyddant yn cael eu cynrychioli gan rywun arall (er enghraifft, cyfreithiwr, cynghorydd, aelod Seneddol)
    • a ydynt yn credu nad oes angen gwrandawiad (os, er enghraifft fod cytundeb wedi ei sicrhau cyn y gwrandawiad ffurfiol)
    • Unrhyw gais i berson arall fynychu’r gwrandawiad, gan gynnwys sut y gallant fod o fudd i’r awdurdod trwyddedu o safbwynt y cais 

     

    Pan gynhelir gwrandawiad, rhaid i’r pwyllgor gymryd y camau hynny y cred sy’n angenrheidiol er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.

     

    • Bydd y rhain yn  caniatáu’r amrywiad yn amodol ar:
    • Yr amodau a wirfoddolwyd yn yr atodlen weithredu, wedi eu haddasu i’r graddau hynny y cred y pwyllgor sy’n angenrheidiol er mwyn hyrwyddo’r amodau trwyddedu
    • Unrhyw amodau gorfodol
    • Eithrio o gwmpas y drwydded unrhyw weithgareddau safle y mae’r cais yn ymwneud â hwy

 

 

Cydsyniad Dealledig

Oes. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel bod eich hysbysiad wedi cael ei roi os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Y cyfnod amser targed yw 28 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd 

Mae trwydded safle yn drwydded sy’n cael ei roi i awdurdodi’r safle i gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy, yn benodol:

  • Gwerthu alcohol yn fasnachol
  • Darparu adloniant wedi’i reoleiddio
  • Darparu lluniaeth yn hwyr gyda’r nos

Caiff hwn ei ddiffinio yn ôl Deddf Drwyddedu 2003 fel:

  • Perfformio drama
  • Dangos ffilm
  • Digwyddiad chwaraeon dan do
  • Adloniant bocsio neu ymaflyd codwm (allanol a dan do)
  • Perfformio cerddoriaeth fyw
  • Chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio
  • Perfformio dawns
  • Cyfleusterau ar gyfer dawnsio
  • Adloniant y gellir ei ddisgrifio fel ei fod yn debyg i berfformio cerddoriaeth fyw, chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio a pherfformio dawns
  • Ond dim ond pan fo’r adloniant yn digwydd ym mhresenoldeb cynulleidfa a’i fod wedi ei ddarparu o leiaf yn rhannol er mwyn diddanu’r gynulleidfa honno.

Mae lluniaeth yn hwyr gyda’r nos yn golygu cyflenwi bwyd a diod gynnes i’r cyhoedd, i’w bwyta/yfed ar neu oddi ar y safle. Rhwng 11:00pm a 5:00am neu gyflenwi bwyd neu ddiod gynnes i unrhyw berson rhwng yr oriau hynny ar neu o'r safle y mae mynediad gan y cyhoedd iddi.

 

Ffioedd

Mae’r ffi i amrywio tystysgrif safle clwb wedi ei seilio ar werth ardrethol.

 

Band A B C D E
Gwerth ardrethol annomestig  £0 - £4,300 £4,301 - £33,000 £33,001 - £87,000 £87,001 - £125,00  £125,00 +
Ffi amrywio  £100  £190  £315  £450  £635

Amodau

  • Gweini alcohol:

    1. Ni cheir gweini alcohol dan y drwydded safle -

        a) ar adeg pan nad oes goruchwyliwr safle dynodedig o safbwynt y drwydded safle, neu

        b) ar adeg pan nad yw’r goruchwyliwr safle dynodedig yn dal trwydded bersonol, neu os yw ei drwydded bersonol wedi ei hatal.

     

    2. Rhaid i bob gweini ar alcohol dan y drwydded safle gael ei wneud neu ei awdurdodi gan berson sy’n dal trwydded bersonol

  • Hyrwyddo Anghyfrifol ar Ddiodydd

    1) Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau nad yw staff ar y safle dan sylw yn trefnu, gweithredu na chymryd rhan mewn unrhyw hyrwyddo anghyfrifol yn ymwneud â’r safle.

     

    (2) Yn y paragraff hwn, gallai hyrwyddo anghyfrifol olygu unrhyw un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol, neu weithgareddau sy’n sylweddol debyg, gaiff eu cynnal er annog gwerthu neu weini alcohol i’w yfed ar y safle:

       (a) gemau neu weithgareddau eraill sy’n gofyn neu’n annog , neu wedi eu cynllunio i fynnu neu annog unigolion i-

            (i) yfed swm o alcohol o fewn terfynau amser (ac eithrio yfed alcohol a werthir neu a weinir ar y safle cyn diwedd y cyfnod lle mae'r person cyfrifol wedi ei awdurdodi i werthu neu weini alcohol), neu

           (i) yfed cymaint o alcohol ag y bo modd (boed terfyn amser ai peidio);

       (b) darparu swm diderfyn neu symiau heb eu nodi o alcohol am ddim neu am ffi benodol neu ostyngol i’r cyhoedd neu grŵp a ddiffinnir gan nodwedd benodol mewn modd lle mae perygl sylweddol tanseilio nod trwyddedu;

       (c) darparu alcohol am ddim neu am bris gostyngol neu unrhyw beth arall fel gwobr i annog neu wobrwyo prynu ac yfed alcohol dros gyfnod o 24 awr neu lai mewn modd lle mae perygl sylweddol o danseilio nod trwyddedu;

      (d) gwerthu neu weini alcohol ar y cyd â phosteri neu daflenni hyrwyddo ar, neu yng nghyffiniau’r safle y gellid yn rhesymol dybio eu bod yn cymeradwyo, annog neu fawrygu ymddygiad gwrthgymdeithasol neu gyfeirio at effeithiau meddwdod mewn modd ffafriol.

      (e) gweini alcohol yn uniongyrchol gan berson yn syth i geg un arall (ac eithrio lle na all y person hwnnw yfed heb gymorth oherwydd anabledd).

  • Dŵr yfed am ddim 
    Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod dŵr yfed am ddim wedi ei ddarparu ar gais i gwsmeriaid lle gellir yn rhesymol ei gyrchu.
  • Polisi gwirio oed

    1) Rhaid i ddeiliad y drwydded safle neu ddeiliad tystysgrif safle’r clwb sicrhau bod polisi gwirio oed yn cael ei fabwysiadu yng nghyd-destun y safle o safbwynt gwerthu neu weini alcohol.

     

    (2) Rhaid i oruchwyliwr dynodedig y safle o safbwynt y drwydded safle sicrhau bod gweini alcohol ar y safle yn cael ei wneud yn unol â’r polisi gwirio oed.

     

    (3) Rhaid i’r polisi fynnu bod unigolion sy’n ymddangos i’r person cyfrifol eu bod dan 18 oed (neu pa oed bynnag os yw’n hŷn na hynny yn y polisi) ddarparu ar gais, cyn y gweinir alcohol iddynt, brawf adnabod yn cynnwys ffotograff, ac yn nodi dyddiad geni ac un ai -

        (a) nod holograffig, neu

        (b) nodwedd uwch fioled.

  • Mesurau Llai

    Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau -

       (a) lle bydd unrhyw un o’r diodydd alcohol canlynol yn cael eu gwerthu neu eu gweini i’w yfed ar y safle (ac eithrio diodydd a werthir neu a weinir wedi eu paratoi i’w gwerthu ymlaen llaw mewn cynhwysydd caeedig diogel) byddant ar gael i gwsmeriaid yn y mesurau canlynol -

          (i) cwrw neu seidr: ½ peint;

          (ii) jin, rym, fodca neu chwisgi: 25 ml neu 35 ml; a

          (iii) gwin llonydd mewn gwydr: 125 ml;

      (b) bod y mesurau hyn ar arddangos i’r cwsmeriaid ar y safle mewn bwydlen, rhestr brisiau neu ddeunydd print arall; 

      (c) lle nad yw cwsmer o safbwynt gwerthu alcohol yn nodi faint o alcohol sydd i'w werthu, y gwneir y cwsmer yn ymwybodol bod y mesurau hyn ar gael.

  • Isafswm Prisio

    1. Rhaid i berson perthnasol sicrhau na chaiff alcohol ei weini na’i werthu i’w yfed ar y safle neu oddi arno am bris sy’n llai na’r pris a ganiateir.

     

    2.  At ddibenion yr amod a nodwyd ym mharagraff 1 -

       (a) “toll” i gael ei drin yn unol â Deddf Tollau Gwirod Alcoholig 1979;

       (b) “pris a ganiateir” yw’r pris a geir drwy ddefnyddio’r fformiwla -

    Lle -

           (i) P yw’r pris a ganiateir,

           (ii) D yw maint y doll gaiff ei godi o safbwynt yr alcohol fel pe codid y doll ar y diwrnod y gwerthwyd neu y gweinwyd yr alcohol, a

          (iii) V yw’r gyfradd treth ar werth a godir o safbwynt yr alcohol fel pe codid y dreth ar werth ar y diwrnod y gwerthwyd neu y gweinwyd yr alcohol;

       (c) “person perthnasol” yn golygu, yng nghyd-destun safle lle mae yna drwydded safle mewn grym -

          (i) deiliad y drwydded safle,

          (ii) y goruchwylydd safle dynodedig (os o gwbl) yng nghyd-destun trwydded o’r fath, neu

          (iii) y deiliad trwydded bersonol sy’n gwneud neu awdurdodi gweini alcohol dan drwydded o’r fath;

      (d) “person perthnasol” yn golygu, yng nghyd-destun safle lle mae yno dystysgrif safle clwb mewn grym, unrhyw aelod neu swyddog y clwb sy’n bresennol ar y safle mewn swyddogaeth sy’n galluogi’r aelod neu’r swyddog i atal y gweini dan sylw; a

      (e) “treth ar werth” yn golygu'r dreth ar werth gaiff ei godi yn unol â Deddf Treth ar Werth 1994.

     

    3. Lle na fyddai’r pris a ganiateir a gaiff ei roi ym Mharagraff (b) paragraff 2 (ac eithrio’r paragraff hwn) yn rif llawn o geiniogau, ystyrir y bydd y pris a roir yn yr is-baragraff hwnnw y pris a gaiff ei roi mewn gwirionedd yn yr is-baragraff hwnnw wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf.

     

    4. (1) Bydd is-baragraff (2) yn weithredol pan fo’r pris a ganiateir a roir ym Mharagraff (b) paragraff 2 ar ddiwrnod (“y diwrnod cyntaf”) yn wahanol i’r pris a ganiateir ar y diwrnod canlynol (“yr ail ddiwrnod”) o ganlyniad i newid yng nghyfradd y doll neu’r dreth ar werth.

    (2) Bydd y pris a ganiateir a fyddai’n weithredol ar y diwrnod cyntaf yn berthnasol i werthu neu weini alcohol a fyddai’n digwydd cyn pen draw’r cyfnod o 14 diwrnod fydd yn dechrau ar yr ail ddiwrnod.

  • Dangos Ffilmiau

     (1) Lle bo trwydded safle yn caniatáu dangos ffilmiau, rhaid i’r drwydded gynnwys amod sy’n mynnu bod caniatáu mynediad i blant i ddangosiad ffilm wedi ei gyfyngu yn unol â’r adran hon.

     

    (2) Lle bo’r corff dosbarthu ffilm wedi ei nodi yn y drwydded, oni bai bod isadran (3)(b) yn weithredol, rhaid i fynediad gan blant gael ei gyfyngu yn unol ag unrhyw argymhellion a wneir gan y corff hwnnw.

     

    (3) Pan -

         (a) nad yw’r corff dosbarthu ffilm wedi ei nodi yn y drwydded, neu

         (b) fo’r awdurdod trwyddedu perthnasol wedi hysbysu deiliad y drwydded bod yr is-adran yma’n berthnasol i’r ffilm dan sylw, rhaid cyfyngu mynediad gan blant yn unol ag unrhyw argymhellion a wneir gan yr awdurdod trwyddedu hwnnw.

     

    (4) Yn yr adran hon-

    o “plant” yn golygu personau o dan 18 oed; a

    o “corff dosbarthu ffilm” yn golygu person neu bersonau a ddynodwyd fel yr awdurdod dan adran 4 Deddf Recordiadau Fideo 1984 (c. 39) (awdurdod i bennu addasrwydd gweithiau fideo ar gyfer dosbarthiad).

  • Arolygu’r Drws 

    (1) Pan fo trwydded safle yn cynnwys amod ar adegau penodol rhaid bod un neu fwy o unigolion ar y safle i gyflawni gweithgaredd diogelwch, rhaid i’r drwydded gynnwys amod bod yn rhaid i unigolyn o’r fath

        (a) fod wedi ei awdurdodi i gyflawni’r gweithgaredd hwnnw gan drwydded a roddwyd dan Ddeddf Diwydiant Diogelwch Preifat 2001; neu

        (b) bod hawl ganddo i gyflawni’r gweithgaredd hwnnw.

    (2) Ond nid oes dim yn isadran (1) sy’n mynnu bod yn rhaid gosod amod o’r fath -

        (a) o safbwynt safle o fewn paragraff 8(3)(a) Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant Diogelwch Preifat 2001 (c. 12) (safle â thrwydded safle yn awdurdodi dramâu neu ffilmiau), neu

        (b) yng nghyd-destun safle mewn perthynas â -

            (i) unrhyw achlysur a grybwyllwyd ym mharagraff 8(3)(b) neu (c) yr Atodlen honno (safle yn cael ei ddefnyddio’n unig gan glwb yn meddu ar dystysgrif safle clwb, dan hysbysiad digwyddiad dros dro yn awdurdodi dramâu neu ffilmiau neu dan drwydded hapchwarae), neu

           (ii) unrhyw achlysur o fewn paragraff 8(3)(d) yr Atodlen honno (achlysuron a bennwyd gan reoliadau dan y Ddeddf honno).

    (3) At ddibenion yr adran hon -

       (a) “gweithgaredd diogelwch” yn golygu gweithgaredd y mae paragraff 2(1)(a) yr Atodlen honno yn berthnasol iddo, ac sy'n ymddygiad trwyddedadwy at ddibenion y Ddeddf honno (gweler adran 3(2) y Ddeddf honno), a

      (b) mae paragraff 8(5) yr Atodlen honno (dehongliad o gyfeiriadau at achlysur) yn weithredol yn y modd y mae’n weithredol o safbwynt paragraff 8 yr Atodlen honno

 

 

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni Ceisiadau a Fethodd

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw un sydd â chwyn oherwydd gwrthodiad i gael trwydded apelio i Lys yr Ynadon a all roi’r fath gyfarwyddiadau ynglŷn â’r drwydded neu ei amodau ag y mae’n eu gweld yn briodol.

  •  Unioni ar gyfer Deiliad Trwydded

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon ar unrhyw amodau sy’n berthnasol i drwydded apelio i Lysoedd yr Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

  •  Cwyn Cwsmer

    Mewn achosion o gwyno, hoffem argymell mai chi ddylai gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf darparu. 

     

    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi. Consumer Direct    

     

    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â'r UK European Consumer Centre UK European Consumer Centre

  •  Unrhyw Unioni Arall

    Gall prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal yr heddlu lle lleolir y safle wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded os oes trwydded gan y safle i werthu alcohol yn fasnachol a bod uwch swyddog wedi rhoi tystysgrif i’r perwyl ei fod o’r farn fod y safle yn gysylltiedig â throseddu difrifol neu anrhefn neu'r ddau. Cynhelir gwrandawiad wedyn a gall deiliad y drwydded a phartïon eraill â diddordeb roi sylwadau.

     

    Gall prif swyddog heddlu roi rhybudd i’r awdurdod trwyddedu os ydynt yn credu y gallai trosglwyddo trwydded i un arall, dan gais amrywio, danseilio amcanion atal troseddu. Rhaid rhoi rhybudd o’r fath o fewn 14 diwrnod i dderbyn hysbysiad ynghylch y cais.

     

    Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol roi sylwadau o safbwynt cais trwydded neu wneud cais i’r corff trwyddedu adolygu trwydded.

     

    Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol wneud cais i’r corff trwyddedu adolygu trwydded safle. Cynhelir gwrandawiad wedyn gan y corff trwyddedu.

     

    Gall prif swyddog yr heddlu wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded os oes trwydded gan y safle i werthu alcohol yn fasnachol a bod uwch swyddog yn yr heddlu wedi rhoi tystysgrif i’r perwyl ei fod o’r farn fod y safle yn gysylltiedig â throseddu difrifol neu anrhefn neu'r ddau.

     

    Gall parti a diddordeb neu awdurdod perthnasol a roes sylwadau perthnasol apelio yn erbyn rhoi trwydded neu yn erbyn unrhyw benderfyniadau ar amod, amrywiad, gweithgaredd trwyddedadwy neu oruchwyliwr safle.

    Gwneir apeliadau i Lys yr ynadon o fewn 21 diwrnod i hysbysiad ynghylch penderfyniad.

 

Gwybodaeth Ategol 

  • Atodlen Weithredu Clwb

    Mae’r atodlen weithredu yn rhan o’r ffurflen gais a dylai sefydlu’r manylion amrywiol ar sut y bwriedir gweithredu’r safle wrth gyflawni gweithredoedd trwyddedadwy. 

     

    Rhaid iddo gynnwys y wybodaeth ganlynol:

    • y gweithredoedd trwyddedadwy y bwriedir eu cyflawni
    • yr oriau y cynigir bod y gweithredoedd trwyddedadwy i ddigwydd
    • Enw a chyfeiriad y goruchwylydd safle dynodedig os yw’r gweithgareddau trwyddedadwy yn cynnwys gwerthu alcohol yn fasnachol 
    • pan ddarperir alcohol, a yw’r ddarpariaeth i’w yfed ar y safle ac/neu oddi arno
    • datganiad o’r camau y mae’r ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
    • Pan fo’r drwydded am gyfnod cyfyngedig, y cyfnod hwnnw 

     

    Arwyddocâd atodlen weithredu’r clwb yw os caiff cais y clwb ar gyfer tystysgrif safle clwb ei ganiatáu, caiff ei ymgorffori i’r dystysgrif a bydd yn sefydlu’r gweithgareddau a ganiateir ac unrhyw gyfyngiadau.

  • Cynllun y safle

    Rhaid i gynllun safle fod ar y raddfa safonol – 1mm = 100mm (oni bai y cytunwyd fel fformat arall gyda’r Cyngor). Mae’r Cyngor hefyd yn ffafrio cynlluniau nad sy’n fwy na maint A3.

     

    Rhaid i gynllun y safle gynnwys y canlynol:

    • Lleoliad hyd a lled ffiniau’r adeilad, os yn berthnasol, ac unrhyw waliau allanol a mewnol sy’n ffurfio’r safle neu o fewn lle ceir y safle.
    • Lleoliad mynedfeydd i mewn ac allan o’r safle
    • Os yn wahanol i’r uchod, lleoliad llwybrau dianc o’r safle
    • Yn yr achosion hynny lle mae’r lleoliad i gael ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un weithred drwyddedadwy, yr ardal o fewn y safle sydd i’w ddefnyddio ar gyfer pob gweithgaredd
    • Adeiladwaith a osodwyd (gan gynnwys celfi) neu wrthrychau tebyg a osodwyd yn eu lle dros dro (ond nid celfi) all effeithio ar allu unigolion ar y safle i ddefnyddio allanfeydd neu lwybrau dianc yn ddi-rwystr.
    • Mewn achos lle mae’r safle yn cynnwys llwyfan neu ardal wedi ei godi, lleoliad ac uchder pob llwyfan neu ardal uwch o’i gymharu â’r llawr
    • mewn achos lle mae'r safle yn cynnwys unrhyw ystafell neu ystafelloedd yn cynnwys cyfleusterau cyhoeddus, lleoliad unrhyw un o'r rhain
    • Lleoliad a’r math o ddiogelwch tân ac unrhyw offer diogelwch arall gan gynnwys, os yn berthnasol, offer diogelwch morol
    • Lleoliad cegin, os oes un ar y safle

     

    Gall y cynllun gynnwys eglurhad lle gellir nodi’r uchod drwy ddefnyddio symbolau. Enghraifft o eglurhad ar gyfer cynllun gweithredu.

  • Hysbysiad

    I hysbysebu’r cais, rhaid i’r ymgeisydd ddangos Hysbysiad o’r un maint neu’n fwy na maint A4 (ar bapur glas golau) wedi ei brintio’n glir mewn inc du neu wedi ei deipio mewn du ar ffont maint 16 neu fwy. Rhaid i hwn fod ar y safle neu y tu allan iddo am gyfnod heb fod yn llai na dau ddeg wyth diwrnod olynol gan ddechrau ar y diwrnod wedi’r diwrnod y rhoddwyd y cais i Gyngor Bro Morgannwg ac yn y cyfnod hwn gall partïon â diddordeb wneud sylwadau.

    Ar gyfer eiddo sydd ag ochr flaen dros 50 metr o hyd yn wynebu priffordd, dylid gosod yr Hysbysiad bob 50 metr.

     

    Ar ben hyn rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur lleol. Rhaid i hwn fod ar o leiaf un tro yn ystod y cyfnod o 10 diwrnod gwaith gan ddechrau ar y diwrnod wedi’r diwrnod pan roddwyd y cais i Gyngor Bro Morgannwg. Enghraifft o gynnwys hysbysiad i'w arddangos ar y safle a mewn papur lleol.

     

    Dylai’r Hysbysiad gynnwys crynodeb byr cwbl eglur o’r cais i amrywio gan osod y manylion fel a ganlyn:

    • gweithgareddau trwyddedadwy perthnasol arfaethedig i’w cyflawni ar neu o’r safle
    • Enw’r ymgeisydd
    • Cyfeiriad post y safle, os oes un, neu os nad oes cyfeiriad post i’r safle yna disgrifiad o’r safle fyddai’n ddigonol i allu nodi lleoliad a hyd a lled y safle
    • Y cyfeiriad post a, lle bo’n berthnasol, gyfeiriad gwefan lle cedwir cofrestr Cyngor Bro Morgannwg a lle gellir gweld cofnod o ‘r cais
    • Y dyddiadau perthnasol lle gall partïon â diddordeb ac awdurdodau cyfrifol roi sylwadau i Gyngor Bro Morgannwg (gw. y ceisiadau hysbysebu uchod)
    • Datganiad y dylid gwneud unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig; a
    • Datganiad yn nodi ei bod yn drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n esgeulus mewn cysylltiad â chais a gallai’r gosb o gollfarn ddiannod fod yn ddirwy o hyd at £5,000.