Cost of Living Support Icon

Sgiliau Hanfodol 

Canolfan Ddysgu'r Fro

Llawr Cyntaf, Sgwâr y Brenin, Y Barri CF63 4RW

 

Eisiau gwella eich sgiliau?  Angen cymwysterau ar gyfer gwaith?

 

Wedi ein lleoli yn Llyfrgell y Barri rydym yn cynnig cyrsiau Sgiliau Hanfodol (Saesneg a Mathemateg) ar gyfer oedolion, ar amrywiaeth o lefelau.

 

A allaf ennill cymwysterau?

Mae ein dosbarthiadau yn ffordd wych o wella eich sgiliau ac ennill cymwysterau gwerthfawr.  Rydym yn cynnig cymwysterau Sgiliau Hanfodol City and Guilds o lefel mynediad 1 i lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg.

 

Gallwch hefyd ennill cymwysterau Agored Cymru wrth ddysgu.

 

Pryd allaf  ddechrau?

Gallwch ddechrau unrhyw bryd.  Cysylltwch a'r ganolfan yn gyntaf fel y gallwn roi mwy o wybodaeth i chi am ein dosbarthiadau a thrafod pa gwrs fyddai orau i chi.

 

Cost

Mae’r cyrsiau am ddim.

Cyrsiau Sgiliau Hanfodol