Cost of Living Support Icon

Creu Ymdeimlad o Le i'r Barri

Darganfyddwch sut mae'r broses hon wedi datblygu drwy ddilyn y llinell amser isod:

 

Mawrth 2019: Rheolwr Lle a Bwrdd Lle, Y Barri – Creu Tonnau.

Mae project Y Barri – Creu Tonnau wedi cychwyn, gyda Rheolwr Lle wedi ei phenodi ar gyfer y Barri. Mae gan Mererid Velios gefndir mewn celf gyhoeddus ac adfywio ac mae eisoes yn gyfarwydd â’r Barri wedi iddi weithio ar nifer o brojectau yma dros y 10 mlynedd diwethaf.

 

Mae’r Rheolwr Lle wedi bod yn gweithio gyda’r ymgynghorwyr ThinkingPlace i greu Bwrdd Lle ar gyfer y Barri. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol Bwrdd Lle’r Barri ar 8 Mawrth, a bydd y Bwrdd yn cwrdd bob yn ail fis i yrru’r llifoedd gwaith a amlinellir isod yn eu blaenau.

 

 

Mawrth 2018: Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cynllun peilot Lle Arbennig (Cymru):  Y Barri – Creu Tonnau

Mae Y Barri-Creu Tonnau yn un o bum prosiect yng Nghymru y dyfarnwyd cyllid iddo gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn cymryd rhan mewn cynllun peilot am y cyfnod 2018-2021:

 

Cyngor Bro Morgannwg sy'n arwain y prosiect Y Barri – Creu Tonnau mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Barri a Chanolfan Gelfyddydau y Memo.  Bydd tair ffrwd waith yn ffocws ar gyfer cyflwyno'r rhaglen weithgareddau Y Barri – Creu Tonnau.

 

Ffrwd waith 1: Partneriaethau a llywodraethu da - Bydd hyn yn cynnwys penodi Rheolwr Lle ar gyfer y Barri i arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu'r prosiect; a sefydlu Bwrdd Lle (wedi'i dynnu o sbectrwm eang o gymuned y lle) er mwyn cefnogi a hyrwyddo'r newidiadau angenrheidiol yn ystod y broses hon a sicrhau bod y gwaith o reoli a datblygu'r lle’n barhaus yn cael ei yrru ymlaen.

 

Ffrwd waith 2: Ymgorffori Treftadaeth a Diwylliant mewn cynlluniau a gweithgareddau hirdymor ar gyfer y Barri – Bydd hyn yn cynnwys datblygu, dylunio a chyhoeddi dwy ddogfen strategol; llyfr stori'r Barri, dogfen addysgiadol ac ysbrydoledig sy'n ymwneud â stori newydd y Barri ar gyfer rhanddeiliaid; a phecyn cymorth dylunio'r Barri i alluogi partneriaid a rhanddeiliaid i ddefnyddio'r cynnig brand yn eu gweithgareddau.

 

Ffrwd waith 3: Adeiladu Cyfalaf Cymdeithasol - Bydd hyn yn canolbwyntio ar dri gweithgaredd, sef sefydlu Cronfa Gwirfoddolwyr Cymunedol; cyflwyno Prosiect Gwneud Lle Digidol; a rhaglen Marchnata ac Allgymorth.  Bydd yr holl gamau uchod yn atgyfnerthu ei gilydd ac yn cyd-fynd yn gadarnhaol â'r gweithgareddau a'r canlyniadau a ddisgrifir yng nghanllawiau Cynllun Lle Arbennig Cronfa Dreftadaeth y Loteri. 

 

Ionawr 2017: Gweithdai Ymgysylltu â'r Gymuned a chyfweliadau â rhanddeiliaid

O'r wybodaeth a'r cipolygon a gafwyd o'r sesiynau cymunedol a'r cyfweliadau â rhanddeiliaid, mae'r adroddiad (Tuag at Syniad a Brand Newydd ar gyfer y Barri (Chwefror 2017)) yn mynd ymlaen i egluro stori'r Barri ac i gynnig set newydd o syniadau a chysyniadau (Y Barri – Creu Tonnau) sy'n sail ar gyfer cyfres newydd o werthoedd brand ar gyfer y dref, a ffyrdd o gynrychioli'r gwerthoedd brand hynny yn weledol.

 

 

Mai 2016: Fforwm Adfywio 25 Mai: Creu Ymdeimlad o Le i'r Barri

Mae'r syniad o adfywio a arweinir gan Ymdeimlad o Le yn golygu ymgysylltu â grwpiau cymunedol a thwristiaeth a'u hysbrydoli am eu hardal er mwyn manteisio ar eu gwybodaeth i roi dehongliad gwell a chyfoethog o'r lle hwnnw, ac ymdeimlad cynyddol o falchder a pherchnogaeth. Roedd Ymdeimlad o Le yn bwnc gweithdy a chafwyd cryn ddiddordeb a thrafodaeth yn y fforwm agoriadol a gynhaliwyd yn 2014.  Anogwyd presenoldeb ar gyfer fforwm 2016 ar draws ystod eang o sefydliadau, preswylwyr a grwpiau buddiant lleol a chofrestrodd 100 o gynrychiolwyr i fynychu.

 

Dyma ddetholiad o ddogfennau defnyddiol sy'n gysylltiedig â'r fforwm a chyfraniadau fideo gan yr Athro Dai Smith (darlledwr, hanesydd ac awdur ar faterion celfyddydol a diwylliannol) a 'barn y bobl' gyda chyfraniadau gan unigolion o bob rhan o'r gymuned:

 

 

 

Mae'r Adroddiad Adfywio drwy Naws o Le (Mehefin 2016) yn rhoi sylwebaeth ar y ffyrdd ymlaen posibl i'r dref o ran datblygu Naws am Le fel dull o adfywio.

 

Tachwedd 2014: Fforwm Adfywio Cyntaf 25 Tachwedd: Llunio Dyfodol y Barri

Mae'r Fforwm Adfywio yn dod â phobl o wahanol rannau o gymuned y Barri ynghyd, gan roi cyfle iddynt ryngweithio a thrafod y materion sy'n effeithio ar adeiladwaith y dref a'r ardal gyfagos. Yn gweithredu fel llwyfan ar gyfer ymgysylltu a man cychwyn ar gyfer cydweithio, y diben yw sbarduno sgyrsiau a thynnu syniadau oddi wrth bobl sy'n angerddol am yr ardal a ffyniant a lles ei thrigolion yn y dyfodol.

 

Nod y digwyddiad oedd ystyried y camau nesaf ar gyfer y Barri ar ôl i'r rhaglen ardal adfywio ddod i ben yn gynharach yn 2014; ac archwilio'r heriau a'r cyfleoedd sy'n codi yn y Barri a'i chymunedau.  Mynychwyd y digwyddiad gan dros 80 o gynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ynghyd â thrigolion lleol a chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol yn y Barri.

 

Dyma ddetholiad o ddogfennau defnyddiol sy'n gysylltiedig â'r Fforwm a chyfraniadau fideo:

  

  

 

 

 

 

 Funding Raised by the National Lottery logo