The Welsh National Anthem

 

Welsh Language Version

 

Hen Wlad fy Nhadau

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi

Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri.

Ei gwrol ryfelwyr gwladgarwyr tra mad

Dros ryddid collasant eu gwaed.

 

Cytgan:

Gwlad! gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad

Tra môr yn fur

I'r bur hoff bau

O bydded i'r heniaith barhau.

 

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd

Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd

Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si

Ei nentydd, afonydd i mi

 

Gwlad! gwlad.....

 

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed

Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed

Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad

Na thelyn berseiniol fy ngwlad

 

Gwlad! gwlad.....