Eisteddfod

Gwyliwch luniau'r Cyngor o'r MaesEisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 

4-11 Awst 2012

 

26 Tachwedd 2012

 

Newyddion diweddaraf: Cyngor yr Eisteddfod yn cyhoeddi gweddill o £50,000 wedi Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg

 


Wedi i ni ffarwelio â'r Pafiliwn Pinc a'r holl ymwelwyr a ddaeth i'r Eisteddfod, gall y Fro ymfalchïo yn llwyddiant y Brifwyl am flynyddoedd i ddod, er gwaethaf ambell ddiwrnod o dywydd mawr.

Daeth cyfanswm o 138,767 o bobl trwy'r clwydi i fwynhau'r cystadlu, yr awyrgylch, y gweithgareddau a holl hwyl y Maes.

 

Uchafbwyntiau Eisteddfod 2012 

 

* Enillwyd y Goron gan Gwyneth Lewis, a Gwobr Goffa Daniel Owen gan Robat Gruffudd. Dylan Iorwerth oedd enillydd y Gadair, a dyfarnwyd y Fedal Ddrama i Bedwyr Rees.

 

* Bu cyngerdd y noson agoriadol yn llwyddiant ysgubol, a phob tocyn wedi ei werthu. Cyflwynwyd aelodau newydd y corau poblogaidd, Only Vale Kids Aloud, a mawr fu'r canmol iddynt. Ymhlith llwyddiannau'r nosweithiau eraill, roedd perfformiad cyntaf gwaith newydd Karl Jenkins, 'Beirdd Cymru', gyda chôr yr Eisteddfod, nos Sadwrn, a'r Gala Gomedi gyntaf erioed ar y nos Fawrth. Daeth cannoedd o bobl i gael llond bol o chwerthin mewn noson arbennig o dda, er gwaetha'r glaw mawr a'r mwd - da 'di Eisteddfodwyr.

 

* Daeth aelodau o dimau chwaraeon Gleision Caerdydd a Chlwb Criced Morgannwg i ardal chwaraeon a chwarae Cyngor Bro Morgannwg i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a hwyl gyda phlant a phobl ifanc. Da oedd gweld Chris Coleman a John Hartson yno hefyd - enwau mawr ym meysydd rhai o'n hoff chwaraeon tîm.

 

* Cynhaliwyd gweithgareddau poblogaidd ym Mhafiliwn y Cyngor hefyd, gan gynnwys arddangosiadau coginio, paentio wynebau, gweithdai plethu helyg ac adrodd straeon. Roedd y stondin yn brysur gydol yr wythnos.

 

* I gyd-fynd â dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol â bro mebyd Iolo Morganwg, lansiwyd taith gerdded newydd, Cylchdaith Iolo, i ddathlu athrylith y dyn a ddylandwadodd mor drwm ar Eisteddfod heddiw. Mae'r daith yn un barhaol, er bod yr Eisteddfod wedi ffarwelio, felly dewch i'w mwynhau os ydych chi'n hoff o'ch teithiau cerdded

 

* Ac yn olaf, diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich cefnogaeth dros y deunaw mis diwethaf. Boed hynny ar bwyllgor, wrth godi arian, wrth wirfoddoli fel stiwardiaid a chynorthwywyr, trwy fynychu'r Brifwyl neu swyddogaethu mewn unrhyw fodd, ffurfiol ac anffurfiol, roedd pob cyfraniad yn cyfrif. Fyddai'r Eisteddfod ddim wedi llwyddo fel y gwnaeth heboch chi. Diolch o galon.

 

 

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111