Cyflwyno Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bro
Morgannwg i'r Pwyllgor Gwaith 
Mae Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg wedi
cael ei dadlennu a'i chyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl
mewn digwyddiad arbennig yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y
Barri.
Rhoddir y Gadair eleni am ddilyniant o gerddi
mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell, a’r thema yw
‘Llanw’. Y beirniaid yw Mererid Hopwood, Huw Meirion Edwards ac
Ieuan Wyn.
Meddai Dylan Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith
Eisteddfod 2012, “Mae derbyn y Gadair hon, a ninnau o fewn
wythnosau i’r Brifwyl, yn un o uchafbwyntiau dros ddwy flynedd o
waith i ddod â’r Eisteddfod Genedlaethol i Fro Morgannwg. Rydw
i’n eithriadol o falch i fod yma heddiw i dderbyn y Gadair hardd
hon gan y noddwyr eleni, a mawr yw ein diolch iddyn nhw a’r
crefftwr, Andrew Lane, am eu haelioni, eu hysbrydoliaeth a’u gwaith
caled ar y Gadair.
“‘Llanw’ oedd y thema eleni, ac rydyn
ni'n cyrraedd penllanw’r gwaith o baratoi ar gyfer yr
Eisteddfod, ond ar gychwyn y mae’r dathliadau a’r Brifwyl ei hun.
Gobeithio y cawn wythnos ardderchog yma ym Mro Morgannwg, y daw
miloedd o’n cyd-Gymry atom i ddathlu diwylliant ein gwlad ac y
byddwn hefyd yn croesawu miloedd o ymwelwyr newydd i’n mysg yn
ystod yr wythnos. Mae’r Maes yn un hynod braf, a gobeithio y bydd
llygaid Cymru ar y Maes a’r Pafiliwn, yn arbennig ar y dydd Gwener,
gan obeithio y bydd enillydd i'r Gadair hyfryd hon."
Gwnaethpwyd y Gadair o bren yr onnen o
ddyffryn Gwy. Meddai’r crefftwr, Andrew Lane o Sir Fynwy, “Mae
hwn yn bren hyblyg iawn, sy’n caniatàu i mi ddehongli
cynilrwydd symudiad. Yn debyg i farddoniaeth, daw llinellau o
grefftwaith at ei gilydd i greu darn cyflawn. Roeddwn yn ymwybodol
fod gan y Gadair rôl seremonїol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ond
y bydd hefyd yn ddodrefnyn yng nghartref y bardd buddugol. Rwy’n
gobeithio y bydd fy ngwaith yn annog crefftwyr Cymreig y dyfodol i
ddatblygu syniadau newydd.”
Mae’r cynllun yn gyfle i ddatblygu cyfuniad o
dechnegau traddodiadol a modern, gan gynnwys crymu gan stêm a
lamineiddio. Mae llinell y Gadair yn llifo drwy’r cynllun, a dyma
sy’n creu’i chryfder adeilyddol. Cwblhawyd yr arysgrif gan
Rupert King.
Rhoddir y Gadair a’r wobr ariannol eleni gan
Gareth a Ruth Williams, Treoes, a ddaeth i fyw ym Mro Morgannwg
ddeng mlynedd yn ôl ar ôl byw yn Llundain, Efrog Newydd a Dubai.
Mae’r ddau'n ddisgynyddion i emynwyr nodedig o Gymru - Ruth yn
perthyn i Elfed, a Gareth yn ddisgynnydd i William Williams,
Pantycelyn.
Cynhelir Seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 10
Awst am 16.30. Dylai unrhyw un sydd eisiau mynd sicrhau bod
ganddynt docyn sedd gadw gan y bydd y Pafiliwn yn orlawn. Gellir
prynu tocynnau ymlaen llaw drwy ffonio 0845 4090 800 neu fynd i'r
wefan, neu gellir eu prynu ar y diwrnod yn y brif
fynedfa.