Mae'r cyfleusterau LifeStyle yng nghanolfannau hamdden y Fro
yn Y
Barri, Penarth, Y Bont-faen a Llanilltud
Fawr ac mae pob un yn cynnwys offer
diweddaraf Technogym. Mi fydd ein gweithwyr brwd yn rhoi
croeso cynnes i chi mewn awyrgylch gartrefol braf.
Un aelodaeth - pedair canolfan!
Mae aelodaeth Life Style yn costio o £23.50 y
mis. Mae'n eich galluogi i a ddefnyddio cyfleusterau'r
pedair prif ganolfan, sy'n ddelfrydol ar gyfer eich anghenion
unigol. Ffoniwch y Llinell Aelodaeth ar 01446
732 457 neu galwch draw i un o'r canolfannau. Mae
yna hefyd gyfle i bobl sydd ddim yn aelodau dalu wrth
hyfforddi.
|
|
|
Mwy nag aelodaeth campfa
Mae LifeStyle yn eich galluogi
i ddefnyddio pylloedd nofio Y Barri, Penarth a Llanilltud
Fawr, yn ogystal a suites iechyd, dros chwe deg dosbarth ffitrwydd yr
wythnos a nifer o asesiadau iechyd. Mae angen bod yn 16 oed i
ymuno.
|
|
|
Rhaglenni ffitrwydd personol
Mae ein gweithwyr cyfeillgar yn medru creu rhaglen
ffitrwydd unigol ar eich cyfer, beth bynnag yw eich safon a'ch
profiad. Mae'r cyfleusterau ymhlith y gorau sydd ar gael yn
unrhyw le, gydag offer diweddaraf Technogym sy'n
eich adnabod ac yn gwybod pa raglen rydych yn ei dilyn.
|
|
|
Ysbrydoliaeth i fwrw ati!
Eisiau mynd ati, ond yn methu cymryd y cam cyntaf ar hyn o
bryd? Dewch i ddarllen rhai hanesion i'ch ysgogi...
|
|
|
Offer Trixter ac Easyline
Cafodd campfa LifeStyle yng nghanolfan hamdden Y Barri ei
ehangu yn Ionawr 2009, gyda beiciau cyffrous Trixter a
pheiriannau Easyline.
Dyma hanes y diwrnod agor a'r offer. yma hefyd mae manylion y
dosbarthiadau Trixter ac Easyline.
|
|
|
Ffoniwch 01446 732 457 i ymuno
heddiw! Mi fydd angen cwblhau ffurfflen syml ac apwyntiadf i
ymgyfarwyuddo gyda'r offer.
Gofynnwch a chwi a gewch...
1. A oes yna gytundeb tymor hir?
Nac oes, mi gewch chi roi'r gorau iddi unrhyw bryd heb orfod
talu. Ond mae angen gohirio'r mis nesaf cyn yr 16eg o'r mis
cynt.
2. A oes angen talu am raglen ffitrwydd?
Nac oes, rydym yn creu eich rhaglen
ffitrwydd am ddim.
3. Beth fyddaf yn ei gael am fy arian?
Mynediad i'r bedair ganolfan fawr, tri pwll nofio (Y Barri,
Penarth a Llanilltud Fawr), tri suite iechyd (Y Barri, Y Bont-faen
a Phenarth) a dwsinau o ddosbarthiadau pob wythnos.
4. A yw'n bosib talu gyda debyd uniongyrchol (direct
debit)?
Ydy. Dyma fanylion sut i dalu.
5. Oes aelodaeth i gyplau?
Oes. Mae aelodaeth cyplau yn dechrau ar £40.00 y mis.
6. Beth yw oriau
gwaith campfa LifeStyle?
Dyma fanylion yr oriau gwaith.
7. Pa mor hen sy'n rhaid bod?
Mae'n rhaid bod dros 16 oed.
8. A oes gostyngiadau pris ar gael?
Oes. Dyma'r manylion.
9. A yw'n bosib rhewi'r aelodaeth?
Ydy, unrhyw bryd.
10. A oes gan y hyfforddwyr y cymwysterau
angenrheidiol?
Oes. Nid yn unig hynny, mase'n nhw'n gyfeillgar ac yn
groesawgar ac yn aelodau o Gofrestr y Gweithwyr Ymarfer Corff
Proffesiynol.
11. A oes angen archebu dosbarthiadau o flaen
llaw?
Nac oes. Nid yw'n bosib archebu'r mwyafrif llethol
o ddosbarthiadau ffitrwydd o flaen llaw.
12. Pa fynediad sydd ar gyfer pobl anabl?
Dyma fanylion y cyfleusterau ar gyfer pobl anabl.
13. Pa mor hawdd yw dileu fy aelodaeth?
Dyma sut i fynd amdani:
Lifestyle@valeofglamorgan.gov.uk
neu
LifeStyle administrator, Barry Leisure Centre, Greenwood Street,
Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4JJ.