Dewch i gyfarfod Joanne

Joanne Jones, Swyddog Datblygu Chwarae
Mae Joanne wedi bod yn gweithio yn y maes arbennig hwn ers mwy
na 18 mlynedd, gan ddechrau drwy weithio â phlant dan 4 oed cyn
symud ymlaen i weithio mewn Clybiau Dydd Sadwrn a Chlybiau Ar Ôl
Ysgol.
Cyn ymuno â’r Cyngor roedd Joanne yn gweithio yn Adran Chwarae
Cyngor Caerdydd lle bu’n gweithio mewn nifer o Ganolfannau Chwarae
pwrpasol a adeiladwyd ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 a 14
oed.
Ers hynny bu Joanne yn gweithio fel Swyddog Datblygu Ymchwil
Chwarae, gan ymchwilio i chwarae plant yn ogystal â datblygu
cyfleoedd o dan gynllun Cymorth.
Mae ganddi lawer o gymwysterau
- Gweithio â phlant ag anghenion arbennig.
- Cymhwyster Gwaith Chwarae NVQ lefel 3.
- Tystysgrif Rheoli NEB.
- Iaith Arwyddion lefel 1.
- Hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr.
- Gwaith chwarae lefel 4 Coleg Addysg Uwch Casnewydd.