Rygbi
Cyflwyniad
Swyddog Datblygu Rygbi’r Fro ydy Matt Silva, sydd ar y dde yng
nghwmni Gethin Jenkins a Martyn Williams o Gleision Caerdydd - a'r
ddau'n dangos fod rygbi'n gamp galed!). Ei nod yw cynyddu
cyfranogiad, gwella perfformiad ac atgoffa pawb cymaint o hwyl ydy
rygbi cymunedol!
Mae Matt yn cael ei gyflogi gan Gyngor Bro Morgannwg, Undeb
Rygbi Cymru a Gleision Caerdydd. Ei waith yw:
- recriwtio gwirfoddolwyr i ddod yn swyddogion datblygu
cymunedol
- datblygu hyfforddwyr
- datblygu chwaraewyr
- cynnig cyngor ar nawdd
- achredu ysgolion a chlybiau
- rygbi i ferched
- gweithio ag ysgolion
- dod o hyd i chwaraewyr elit.

Mae disgyblion ysgolion y Fro yn llwyddo’n
rheolaidd yn erbyn eu cyfoedion o bob oed, o Fôn i Fynwy.
Ymhlith y sêr sydd wedi cynrychioli Gleision Caerdydd mae Rhys
Williams, John Yapp a Dafydd Hewitt.
Mae yna groeso mawr i fechgyn, merched ac
oedolion ymuno â thîm lleol. Ac os nad oes yna dîm lleol,
beth am sefydlu tîm lleol?! Mae Matt yma i gynnig cymorth
ymhob ffordd.
Dyma’r rhestr o glybiau lleol.
Cysylltu
Matt Silva
Swyddog datblygu rygbi
01446 704 603
rugbydevelopment@valeofglamorgan.gov.uk