Vale of Glamorgan Council

Text Only


Hafan > Mwynhau > Ymweld â'r Fro > Ein trefi > Llanilltud Fawr > Hanes Llanilltud Fawr
Byw | Gweithio | Mwynhau | Ein Cyngor
English
Amseroedd da
Where to stay
Events in Llantwit Major
Hanes Llanilltud Fawr

 

Hanes Llanilltud Fawr

 

Mae gan y dref hon ran allweddol yn hanes ein cenedl.  Efallai mai’r cyfnod mwyaf arwyddocaol yw tua 500 Oed Crist.  Bryd hynny y sefydlwyd y coleg Cristnogol cyntaf ym Mhrydain.  Yn ôl y Guinness Book of Records, yn Llanilltud Fawr y sefydlwyd ysgol gyntaf Prydain.

 

Yn Llanilltud Fawr y sefydlodd Illtud ei glas, clas a oedd yn echel i Gristnogaeth fore'r gwledydd Celtaidd.  Roedd yn ddigon agos at y môr i hwyluso teithio, ond yn ddigon pell i beidio cael ei sylwi gan ymwelwyr annisgwyl oedd yn digwydd hwylio heibio!

 

Eglwys Sant Illtud yw eglwys blwyf fwyaf Morgannwg ac yn ôl John Wesley hi yw’r harddaf hefyd.  Claddwyd brenhinoedd yma, ac mae’n gartref i gasgliad cerrig Celtaidd pwysicaf y genedl.



Return to Graphics Mode
| Hafan | Newyddion Diweddaraf | chwilia | Help | Ymwadiad | Cymraeg teitl. |