Vale of Glamorgan Council


Hafan > Mwynhau > Ymweld â'r Fro > Llefydd i'w gweld yn y Fro > Boats, Trains & Trips > Project Ynys Echni
Byw | Gweithio | Mwynhau | Ein Cyngor
English
Rheilffordd Ynys y Barri
Project Ynys Echni
Waverley - Balmoral
RNLI

Project Ynys Echni

 

Hyfryd

Dim ond pum munud o Gaerdydd a’r Barri, mae’r ynys fechan hon yn fyd ar wahân. Fe synnwch at y cyfoeth o hanes a bywyd gwyllt sydd i'w gael yma. Fe synnwch o weld faint mwy sydd yna i’w ddarganfod hefyd.

 

Os ydi’r tywydd yn caniatáu

Mae pob ymweliad ag Ynys Echni yn dibynnu ar y tywydd ac mae’n bosib y bydd rhaid gohirio’r daith, ar fyr rybudd weithiau, os oes yna wyntoedd cryfion.

 

Oed

Yn anffodus nid yw’r daith yn addas i blant bach o dan 4 oed.

 

Lleoliad

 char: Gadewch gyffordd 33 yr M4 a dilynwch ffordd gyswllt Trelai-Grangetown. Gadewch yr A4232 ar Gyfnewidfa Ferry Road a chymerwch yr allanfa gyntaf. Wrth y goleuadau traffig trowch i’r dde.

 

Ar y gylchfan trowch i’r chwith. Ewch yn syth ymlaen drwy’r gylchfan nesaf. Trowch i’r dde ar gylchfan Ikea. Jim Driscoll Way ydi’r 4ydd heol ar y dde. Chwiliwch am yr arwyddion brown ar gyfer Project Ynys Echni.

 

O Ganol Caerdydd – dilynwch yr arwyddion brown o Heol Penarth. Ewch ar Corporation Road. Ar y gylchfan nesaf trowch i’r dde. Jim Driscoll Way ydi’r 5ed ffordd ar y chwith.

 

Bws: Cysylltwch â Traveline ar 0870 6082608 i gael manylion am wasanaethau lleol. Rhyw 10 munud o waith cerdded i’r Doc.

 

Ar y trên: Yr orsaf drên agosaf yw Grangetown/Bae Caerdydd Rhif Ffôn: 08457 484950.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Amserlen: Teithiau rhwng Mawrth a Hydref. Mae rhaglen ar gael.

Parcio: Maes parcio ceir am ddim – nifer cyfyngedig o lefydd.

Prisiau: Ffoniwch i holi.

 

Manylion Cyswllt

Swyddfa Project Ynys Echni, d/o Canolfan Hamdden Channel View, Jim Driscoll Way, Grangetown, Caerdydd CF11 7HB

Rhif Ffôn: (029) 2035 3917

E-bost: flatholmproject@cardiff.gov.uk 

Gwefan:  http://www.caerdydd.gov.uk/



Return to Graphics Mode
| Hafan | Newyddion Diweddaraf | chwilia | Help | Ymwadiad | Cymraeg teitl. |