Llynnoedd Cosmeston

 

Hanes Cosmeston

 

Yn ystod datblygu Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn 1978, cafwyd hyd i weddillion a oedd yn ffynnu dros chwe chan mlynedd yn ôl.  Penderfynwyd ei fod yn gyfle unigryw i ail-greu’r pentref.  Daeth arbenigwyr ynghyd â Chyngor Bro Morgannwg i greu cipolwg hynod ddiddorol o fwrlwm bywyd yn un o gyfnodau mwyaf cythryblus hanes ein cenedl.Bywyd y pentref

 

Mae’r pentref yn adlewyrchu bywyd yn 1350.  Roedd Ewrop yn lle prysur ar y pryd!  Edward y trydydd oedd ar orsedd Lloegr.  Roedd y Rhyfel Can Mlynedd yn erbyn Ffrainc yn ei ddeuddegfed flwyddyn ac roedd Prydain yn araf ddod at ei hun ar ôl colli bron i hanner y boblogaeth ym Mhla Du 1348.Pentrefwyr yn clebran

 

Y ffordd orau i ddarganfod mwy am Cosmeston yw ymweld a mynd ar daith yng nghwmni un o’r villagers neu i alw draw yn ystod un o’r special events sy’n digwydd drwy’r flwyddyn.

 

Cofiwch fod y gwaith o ddarganfod yn parhau.  Mae Cyngor Bro Morgannwg ac adran archeoleg Prifysgol Caerdydd wrthi’n creu prosiect cymunedol i sicrhau fod y cyhoedd yn cael chwarae eu rhan yn natblygiad y lle arbennig yma.

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111