Gofyn am lyfryn neu lawlyfr bychan
Rydyn ni wedi cynhyrchu amrywiaeth o lyfrynnau am ddim sy'n
rhoi manylion llawn am yr hyn sydd gan Fro Morgannwg i'w
gynnig.
Teithiau cerdded Arfordir Treftadaeth a chefn gwlad Morgannwg
2012-13
Mae'r
llyfryn hwn yn dangos y llefydd gorau i ymweld â nhw ym Mro
Morgannwg ac mae ynddo ffotograffiaeth drawiadol o'r
ardal.
Mae hefyd ynddo wybodaeth am ddigwyddiadau, atyniadau ac ystod
eang o lety.
Yn ogystal, mae'r llyfryn yn cynnwys uchafbwyntiau i ymwelwyr ym
Mhen-y-bont ar Ogwr, ein cymdogion i'r gorllewin, am fod yr
Arfordir Treftadaeth yn rhedeg ar hyd y ddwy sir.
I archebu copi am ddim, ffoniwch 01446 747171.
Llawlyfrau bychain llwybrau trefi i ymwelwyr
Gallwch chi archebu'n llawlyfrau bychain i
gael gwybodaeth fanylach am Y Barri, Ynys Y Barri, Y
Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth. Mae'r llawlyfrau'n
ddwyieithog ac yn dweud wrthoch chi am hanes y trefi, eu prif
atyniadau a gweithgareddau y gallwch eu mwynhau. Mae
map ym mhob llawlyfr yn ogystal ag awgrymiadau am
deithiau cerdded.
Gallwch lawrlwytho fersiynau pdf o'r llawlyfrau trefi
yma:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch ein Canolfan
Gwybodaeth i Ymwelwyr ar 01446 747171.