Ymweld ar fro

Ymweld ar fro

Ble mae Bro Morgannwg?

 

Mae Bro Morgannwg yn ne Cymru ar yr arfordir rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Prif drefi'r Fro ydy Y Barri, Y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr. Yn ogystal, mae milltiroedd o Arfordir Treftadaeth ar hyd ein glannau, a digon o hwyl glan y môr ar Ynys Y Barri a'n traethau eraill.

 

Gyrru 

Dewch ar yr M4 i gyffyrdd 33-35, gan ddibynnu ar ba ran o'r Fro rydych yn ymweld â hi. Cyffordd 33 ydy'r un gorau ar gyfer Y Barri a Phenarth.

 

Teithio ar y trên

Mae cyswllt trên yn y Rhws yn mynd ar hyd arfordir y Fro i'r Barri, Llanilltud Fawr a Phenarth. O'r dwyrain, gallwch ddal trenau o Gaerdydd, o'r gorllewin, o Ben-y-bont ar Ogwr. Mae manylion ar gael ar wefan y cwmni trenau (Saesneg yn unig) neu gallwch ffonio 08457 484950 (cost cyfraddau lleol).

 

Teithio ar y bws

Mae gwasanaethau bws lleol (Saesneg yn unig) yn rhedeg trwy'r Fro. Am rwydwaith fysiau all eich cludo o'r Fro, ewch i wefan y cwmni bws (Saesneg yn unig).

 

Hedfan

Mae Maes Awyr Caerdydd ym Mro Morgannwg. Ewch i wefan y maes awyr i weld amrywiaeth yr hediadau sydd ar gael. Unwaith byddwch chi'n cyrraedd, gallwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd eich cyrchfan os am wneud eich arhosiad yn un cynaliadwy.

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111