Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Pathewod

 

Dormouse - Kate Merry

Anifeiliaid bach sy’n pwyso dim mwy na dau ddarn punt yw pathewod. Mae lliw euraid gloyw arnyn nhw ac mae ganddyn nhw gynffonau blewog trwchus a llygaid mawr duon.

 

Mae’n ddigon hawdd gwahaniaethu rhyngddyn nhw a mamaliaid eraill ond gan mai creaduriaid nosol ydyn nhw, mae’n annhebyg y dewch chi ar eu traws wrth fynd am dro ym mherfeddion cefn gwlad.

 

Rhywogaeth sydd i’w cael mewn coedwigoedd hynafol yw pathewod gan mwyaf, ac mae’n well ganddyn nhw goedydd deilgoll aeddfed gydag amrywiaeth eang o goedydd a llwyni na dim arall. Yn Ne Cymru maen nhw i’w cael mewn cynefinoedd eraill hefyd yn aml iawn, gan gynnwys perthi aeddfed, gwelyau cyrs a chynefinoedd prysg.

 

Mae pathewod yn bwydo ar flodau, paill, ffrwythau, pryfed a chnau aeddfed, ac mae angen cyflenwad cyson o fwyd arnyn nhw drwy gydol y gwanwyn a’r haf. Oherwydd hyn mae coed cyll, gwyddfid, mieri a deri yn arbennig o bwysig iddyn nhw.

 

Mae pathewod yn brin yn y rhan fwyaf o Ynysoedd Prydain ond mae tuedd iddyn nhw fod yn fwy cyffredin yn y de a’r gorllewin gan nad yw hi mor wlyb ac oer yn y rhanbarthau hyn. Mae pathewod yn rhywogaeth a ddiogelir - mae’n anghyfreithlon i ymyrryd â nhw neu’r llefydd y maen nhw’n byw.

 

Oes pathewod i’w cael yn y Fro?

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111