Traethau’r faner las
Bae Whitmore
Cafodd Ynys y Barri'r clod enfawr o ennill
statws Baner Las 2008.
Dyma’r trydydd tro i Ynys y Barri dderbyn yr anrhydedd, yn uno
41 yn unig o draethau Cymru i ennill yr hawl i chwifio’r faner
las.
Mae bodloni anghenion y Faner Las yn eithaf
gwaith!:
- rheoli amgylcheddol
- gwybodaeth addysgiadol
- ansawdd y dŵr
- glendid y traeth
- iechyd a diogelwch.
Clod ym mhedwar ban byd
Mae dau ddeg a dwy o wledydd yn rhan o’r
cynllun. Ewch i draeth las o’r Barri i’r Bahamas, yn dawel
eich meddwl eich bod yn mwynhau cyfleusterau un o draethau gorau’r
byd! Rydym yn llawn balchder bod traethau’r Fro ymhlith y
fath gwmni dethol.
Hanes
Cadw Cymru’n Daclus sy’n gyfrifol am y cynllun
yng Nghymru, gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad a’r Comisiwn
Ewropeaidd. Mae baneri glas wedi bod yn hedfan dros draethau
Cymru ers dechrau’r cynllun yn 1987.
Cysylltu
Ffoniwch:
01446 700 111.
E-bostiwch:
visible@valeofglamorgan.gov.uk