Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Teithiau Cerdded Lleol

 

Mae cerdded llwybrau cefn gwlad y Fro yn gallu bod yn brofiad hynod o bleserus. Yn yr adran hon rydym yn cyflwyno rhai o’r llwybrau mwyaf poblogaidd.

 

Teithiau Tywys Byr

Mae Valeways yn cynllunio ac yn rhedeg teithiau tywys byr ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi bâr o fŵts cerdded, dim ond sgidiau solet sydd angen. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Valeways ar 01446 749000.

 

Llwybr Treftadaeth y Mileniwm Valeways

Ychydig iawn sy’n gwybod am fodolaeth y daith hudolus hanesyddol hon sy’n pontio cyfnod o ryw 6,000 mlynedd. Mae’r daith yn cynnwys rhai o’r golygfeydd gorau yn Ne Cymru.

 

Pellter

72 milltir / 100 km.

Mae yna 16 o lwybrau hawdd i’w dilyn y gellir eu cwblhau ymhen ychydig oriau. Mae’n bosib dilyn unrhyw un o’r llwybrau ar eu hyd neu fe allech chi eu cynnwys mewn amrywiaeth o gylchdeithiau. 

 

Llety a Thrafnidiaeth

Ac ychydig o waith paratoi ymlaen llaw mae’r Llwybr Treftadaeth yn cynnig yr opsiwn i chi dreulio wythnos gyfan yn cerdded y llwybrau. I gael manylion am lety trowch at y tudalennau llety ar y wefan hon. I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus trowch at: www.traveline.org.uk

 

Llyfryn Llwybr Treftadaeth y Mileniwm- £8.49

Mae’r llyfryn hwn sy’n cynnwys manylion am bob rhan o’r llwybr gyda mapiau ar gael oddi wrth:

 

Valeways

Uned 7, Canolfan Fenter y Barri

Heol Skomer

Y Barri

Bro Morgannwg

CF62 9DA

Rhif ffôn: 01446 749000

E-bost: info@valeways.org.uk

 

Teithiau Cerdded eraill

Am ragor o wybodaeth ar lwybrau cerdded y Fro ewch i: www.valeways.org.uk.

 

Pwy ydi Valeways?

Sefydliad amgylcheddol unigryw sy’n gweithio tuag at y nod o ddatgloi cefn gwlad y Fro i’r cyhoedd ydi Valeways. Mae Vaelways wedi creu rhwydwaith o gylchdeithiau pleserus sy’n cysylltu trefi a phentrefi gyda’r wlad a llefydd eraill o ddiddordeb.

 

Mae Valeways yn gweithio mewn partneriaeth a Chyngor Bro Morgannwg a chyda nifer o grwpiau sy’n gysylltiedig â chefn gwlad, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr a Chymdeithas y Cerddwyr.

 

Cod y Cerddwyr

  • Mae llwybrau cyhoeddus Bro Morgannwg yn croesi ar draws ffermydd yn bennaf.
  • Cofiwch roi ystyriaeth briodol i’r ffermwyr.
  • Cadwch at y llwybr bob amser;
  • Cadwch gŵn o dan reolaeth;
  • Gadewch giatiau yn yr un modd ag y cawsoch hwy ;
  • Ceisiwch osgoi gwneud difrod i wrychoedd a ffensys ayb;
  • Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi;
  • Peidiwch ag amharu â bywyd gwyllt;
  • Dangoswch barch tuag at fywyd yng nghefn gwlad.
  • Problem? Rhowch wybod i Swyddog Hawliau Tramwy Cyngor Bro Morgannwg ar 01446 704600 neu defnyddiwch y ffurflen adborth.

 

Cyswllt defnyddiol i wefan arall sy’n cynnwys manylion am lwybrau lleol ydi http://www.glamorganwalks.com.

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111