Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Dyfroedd NofioMerch fach ar y traeth

 

Bob haf rhwng mis Mai a mis Medi bydd Cyngor Bro Morgannwg ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn monitro ansawdd dyfroedd nofio yn y Fro. Mae dŵr y môr yn Y Barri, Llanilltud Fawr, Dwnrhefn (Southerndown) ac Aberogwr yn cael eu profi'n wythnosol. Mae'r ansawdd yn cael ei rannu i gategorïau fel a ganlyn: 'rhagorol', 'da' a 'gwael'.

 

Mae Bro Morgannwg yn profi dyfroedd nofio heb eu dynodi ar y traethau canlynol:

  • Bae Watchouse
  • Bae Ffontygari
  • Llanilltud Fawr
  • Aberogwr (canol a gorllewin)

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru'n profi dyfroedd nofio penodol ar y traethau canlynol:

  • Bae Jackson
  • Bae Whitmore
  • Y Cnap
  • Dwnrhefn (Southerndown)
Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111