Ailgylchu a Gwastraff
Calendr ailgylchu
2013-2014
Postiwyd eich calendr newydd atoch ar 22 Mawrth 2013. Os nad
ydych wedi ei dderbyn erbyn canol mis Ebrill, rhowch wybod os
hoffech i ni anfon un arall atoch chi.
Gallwch chi chwilio am eich dyddiadau casglu
ailgylchu ar-lein, ond yn anffodus, dim ond yn Saesneg mae'r
gwasanaeth hwn ar gael. Defnyddiwch y bocs chwilio
isod. Yn ogystal, dyma wybodaeth am sachau
duon sbwriel. Bydd angen i chi eu prynu o hyn ymlaen gan
na fydd y Cyngor yn eu dosbarthu'n rhad ac am ddim bellach.
Dyddiadau casglu sbwriel ac ailgylchu
Chwiliwch am eich dyddiadau casglu sbwriel ac ailgylchu
(Saesneg yn unig)
Gwyliwch y fideo ailgylchu cymysg a grëwyd gan
ein staff ar gyfer ein trigolion
 |
|
A i Y ailgylchu
Ydych chi'n ansicr am beth allwch chi ac na allwch chi
ei ailgylchu? Dyma restr ddefnyddiol allai fod o help i chi.
|
 |
|
Ailgylchu cymysg
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno casgliadau ailgylchu
cymysg. Mae hyn yn golygu y gall pob eitem gael ei roi
mewn un bocs yn wythnsosol er cyfleustra i chi.
|
 |
|
Compost am ddim i drigolion
I ddiolch i chi drigolion y Fro sy'n ailgylchu gwastraff cegin a
gardd, rydyn ni'n falch o gynnig rhywbeth yn ôl i chi
- compost yn rhad ac am ddim.
|
 |
|
Casgliadau gwastraff gardd
Rydyn ni bellach yn casglu'ch gwastraff gardd bob yn ail wythnos
â'ch bagiau sbwriel. Gallwch chi roi'ch gwastraff gardd mewn
un o ddau fath o fag
yn unig. Maen nhw ar werth yn swyddfeydd y Cyngor.
|
 |
|
Canolfannau ailgylchu
Mae dwy
ganolfan ailgylchu ym Mro Morgannwg lle gallwch chi ailgylchu
amrywiaeth o eitemau cartref. Mae'r safleoedd yn Y Barri ac yn
Llandŵ ar agor yn ddyddiol.
Mae cynwysyddion plastig caled ar y ddau safle bellach. Gallwch
chi ailgylchu eitemau fel celfi gardd, teganau, potiau gardd
plastig a hen focsys ailgylchu yma nawr.
|
 |
|
Casglu eitemau mawr am ddim
Cysylltwch â ni i drefnu casglu eich eitemau cartref. Rhowch yr
eitem wrth ochr y ffordd cyn 07:00. Gallwn ni gasglu hyd at bum
eitem ar y tro, ond rhaid i chi gysylltu â ni ymlaen llaw. Cofiwch
fod yr eitemau'n mynd i safle tirlenwi, heblaw am
fatresi, felly os yn bosibl, rhowch nhw i elusen / teulu /
ffrindiau.
|
|

|
|
Cadi hylendid
Mae rhai ohonoch chi wedi dweud wrthon ni fod angen rhywle
arnoch chi i storio cewynnau a phadiau amrywiol. Gallwn ni gynnig
cadi cloadwy yn rhad
am ddim i chi i storio'r math hwn o eitem.
|
|

|
|
Banciau ailgylchu lleol
Mae gennym dros 40 safle ailgylchu sy'n derbyn deunyddiau fel:
papur, cartonau, caniau, gwydr, plastig, tecstilau a llyfrau. Noder
nad oes adnoddau ailgylchu cardfwrdd ar y safleoedd hyn.
|
Cysylltu
Ffoniwch: 01446 700111;
e-bostiwch: visible@valeofglamorgan.gov.uk
Gwefan Craff am
wastraff