Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Casglu Gwastraff Swmpus

 

Hen gadair

Cael gwared ag eitemau swmpus o’r tŷ

Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau swmpus am ddim i drigolion y Fro. Mae angen gosod eich pethau ar y ffordd cyn 07:00. Medrwn gymryd pum eitem ar y tro.

 

Ailgylchu neu wneud rhodd?

Mae popeth rydyn ni'n ei gasglu'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, heblaw am fatresi, sydd wedi bod yn cael eu hailgylchu ers mis Rhagfyr 2011. Felly os ydy'r eitemau o ansawdd da, meddyliwch am eu cynnig i'ch teulu, ffrindiau, cymdogion neu elusen neu grŵp cymunedol lleol cyn eu taflu.

 

Gwaith adeiladu

Nodwch mai adeiladwyr sy’n gyfrifol am gael gwared ag unrhyw wastraff a gynhyrchir ganddynt wrth wneud gwaith ar eich rhan, ond yn gyfreithiol, chi sy'n gyfrifol am sicrhau eu bod yn gwneud hynny.

 

Rydyn ni’n casglu:

  • Gwely wedi torriGwelyau a soffas
  • Matresi
  • Byrddau a chadeiriau
  • Wardrobau
  • Poptai a pheiriannau golchi llestri
  • Oergelloedd a rhewgelloedd, peiriannau sychu a golchi dillad.

Ni allwn gasglu:

Toiledau Ffenestri
Asbestos Baddonau
Brics/rwbel Batris ceir
Sment Ffensys
Drysau (mewnol/allanol) Cypyrddau cegin neu arwynebeddau gwaith
Gatiau Cwteri
Pibellau Plaster
Siediau Sinciau

 

Ewch ag eitemau fel hyn i'n safleoedd yn Stad Ddiwydiannol Atlantic Trading, Y Barri neu Stad Llandŵ. Mae'n rhaid i faniau a threlars gael trwydded i gael mynediad i’r safleoedd yma.

 

Cysylltu

01446 700111

visible@valeofglamorgan.gov.uk 

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111