Canolfannau ailgylchu
Ble maen nhw?
Mae dwy ganolfan gennym, yn Sili a Llandŵ, ar
gyfer trigolion y Fro’n unig. Mae angen caniatâd i ddod â
gwastraff mewn trol neu mewn fan.
Oriau
Mae’r safleoedd ar agor pob diwrnod o’r
flwyddyn, ar wahân i Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd
Calan.
Gaeaf
Sili a Llandŵ
10.00am i 4.00pm
Haf – 30/3/2009 i 25/10/2009
Sili
8.00am i 6.00pm
Llandŵ
10.00am i 5.00pm
Beth allwn ei ailgylchu
Rydym yn medru ailgylchu:
- Pethau trydanol
- Papur, gwydr a chaniau
- Plastigau a chardbord
- Tecstilau
- Tetra Paks
- Olew car
- Batrïau ceir a batrïau a ddefnyddir yn y cartref
- Metel sgrap
- Gwastraff o’r ardd a phren
- Brics a rwbel
- Tiwbiau fflworoleuol
- Ffoil alwminiwm
- Poteli nwy.
Cysylltu
01446 700 111
visible@valeofglamorgan.gov.uk