Vale of Glamorgan Council

Text Only


Hafan > Byw > Her Iechyd Cymru > Eich iechyd > Plant a Phobl Ifanc > Gwobr Dug Caeredin
Byw | Gweithio | Mwynhau | Ein Cyngor
English
Activity directory
Bwlio
Anabledd
Gwobr Dug Caeredin
Gwneud ffrindiau newydd
Datblygu chwaraeon
Eco-Schools

Gwobr Dug Caeredin

 

Beth ydy Gwobr Dug Caeredin?

 

Rhaglen o weithgareddau i chi eu cyflawni yn eich amser sbâr ydy Gwobr Dug Caeredin. Mae yna dair gwobr i chi ymgeisio amdanynt sef Gwobr Efydd, Arian ac Aur. Y Wobr Aur ydy’r wobr fwyaf heriol o’r tair, a dyna pam fod pobl yn dewis mynd am y Wobr Efydd yn gyntaf.

 

I ennill gwobr dewiswch un o’r gweithgareddau o dan y penawdau isod i’w wneud dros gyfnod penodol o amser.

 

Gwasanaethu: Gweithiwch er lles eich cymuned, yr amgylchedd neu dysgwch sut i achub bywyd.

 

Sgiliau: Gwnewch rywbeth gwahanol. Hoffech chi fod yn arlunydd cain neu’n artist trapeze? Bydd gennym rywbeth sy’n siŵr o daro deuddeg.....

 

Ymarfer Corff: Ai chi fydd y Beckham nesaf? Neu Anna Kournikova? Mae unrhyw fath o chwaraeon, dawns neu weithgaredd corfforol yn cyfrif...

 

Taith: Ewch ar daith ddaearyddol a phersonol. Disgwylir i chi hyfforddi, cynllunio a chwblhau taith antur yng nghefn gwlad ar droed, ar gefn ceffyl, mewn cwch, ar gefn beic...

 

Nawr eich bod yn gwybod ychydig mwy am y Wobr – beth am roi cynnig arni?

 

Holwch eich athro, arweinydd clwb ieuenctid, arweinydd Sgowtiaid neu Geids ayb os gallwch ymgeisio am y Wobr drwy eich ysgol neu glwb. Os bydd hynny’n bosibl, cewch wybodaeth ganddynt ynglŷn â sut i fynd at i ymgeisio am Wobr.

 

Os nad ydych chi’n gwybod ble i ymgeisio am y Wobr, cysylltwch â’ch Swyddog Gwobr Dug Caeredin lleol, a fydd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun lleol a fydd yn gallu eich arwain drwy’r broses.

 

Mae’n hwyl, mae’n heriol ac mae’n wahanol... felly, ydych chi’n barod am yr her?

 

Manylion cyswllt:
Award Officer
Duke of Edinburgh's Award
Cowbridge Youth Centre
Westgate
Cowbridge
CF71 7AR
 

Ffon/Ffacs: 01446 774011

 

Ebost: dofevale@valeofglamorgan.gov.uk



Return to Graphics Mode
| Hafan | Newyddion Diweddaraf | chwilia | Help | Ymwadiad | Cymraeg teitl. |