Trwsio Twll

Gwneud gwahaniaeth
Mae dod i ben â gwaith arwyneb y ffyrdd a phroblemau
tyllau yn y ffordd yn her parhaol i bob cyngor lleol. Yma yn y Fro,
rydyn ni wedi mynd i'r afael â'r mater gyda'n hymgyrch Trwsio
Twll.
Mae criwiau Trwsio Twll yn trwsio tyllau dros y penwythnosau.
Mae hwn yn ar ben y gwaith maen nhw'n ei wneud yn ystod
yr wythnos.
Trwsio Twll yn talu ffordd
Dros hanner ffordd trwy flwyddyn eu hymgyrch o fis Medi
2012-13, mae criwiau Trwsio Twll wedi cyflawni'r isod:
Amserlen Trwsio Twll 2012-2013
Mae Cam 1 yn gyflawn
Yn ystod chwarter olaf 2012, bu tîm
Trwsio Twll yn atgyweirio tyllau yn wardiau
- Dyfan
- Illtyd
- Cadoc
- Court
- Castleland
- Buttrills
- Baruc
- Gibbonsdown
- Llantwit Major
- Llandough
- Cornerswell
- St. Augustine's
- Stanwell
- Plymouth
Cam 3 (Mai-Medi 2013)
Bydd tyllau yn yr ardaloedd isod yn cael eu
trwsio yn ystod Cam 3:

Holiaduron Trwsio Twll
I'r sawl a ddywedodd wrthon ni am dwll yn y
ffordd ond sydd heb lenwi'r holiadur papur, mae
holiadur ar-lein Trwsio Twll ar gael yma.
Os hoffech chi adael adborth i ni ar gynllun
Trwsio Twll p'un ai ydych chi wedi dweud wrthon ni am broblem ai
peidio,
llenwch ein holiadur adborth.

Mewn arolwg barn a gynhaliwyd gan Gyngor
y Fro yn 2012, dywedodd nifer ohonoch eich bod wedi laru ar gyflwr
heolydd y Fro.
Yn sgil hynny, fe lansion
ni ymgyrch Trwsio Twll i lenwi ragor o dyllau
yn y ffyrdd ar hyd a lled y sir.
Mae tîm adran y priffyrdd eisoes
yn gweithio ar heolydd y Fro o ddydd Llun tan ddydd Gwener. O hyn
ymlaen, byddwn ni'n treulio'r penwythnosau'n llenwi tyllau ym mhob
ward yn y Fro.
Pryd fyddwn ni yn eich ward chi?
Bydd amserlen Trwsio Twll yn
dangos pryd byddwn ni yn eich ardal chi. Bydd yr amserlen yn
ymddangos yn y wasg leol, ar Twitter: @VOGCouncil,
ar Facebook: Vale of Glamorgan Life, ac ar y dudalen hon.
Er enghraifft, os ydych chi wedi gweld twll yn y ffordd yn ward
Illtyd, mae'r amserlen yn dweud wrthoch chi pryd byddwn ni yn y
ward. Dywedwch wrthon ni amdano yn ystod yr wythnos flaenorol, ac
fe rown ni fe ar y rhestr.
Cofiwch, os byddwch chi'n
gweld marc gwyn o amgylch twll yn yr heol, does dim angen
dweud wrthon ni amdano - rydyn ni eisoes yn paratoi i weithio
arno.
Noder: dim ond rhwng y dydd Llun a'r dydd Gwener
cyn i'n criwiau gyrraedd y ward y gellir dweud wrthon ni am dwll.
Gweler yr amserlen am y dyddiadau perthnasol.
Felly'r tro nesa gwelwch chi dwll yn y
ffordd, peidiwch â chwyno heb weithredu - rhowch wybod
i ni ac fe ddown i'w atgyweirio cyn gynted ag y gallwn ni.
Diolch!
Cwestiynau cyffredin
Pam fod tyllau'n ymddangos yn y
ffordd?
Mae twll yn y ffordd yn
datblygu lle bo'r asffalt wedi erydu a phant wedi ffurfio. Wrth
iddyn nhw heneiddio, mae arwynebeddau ffordd yn mynd yn fwy
mandyllog ac yn amsugno rhagor o law. Mae rhew hefyd yn effeithio
ar yr arwyneb wrth i ddŵr ddiferu i lawr, rhewi ac
ehangu. Mae hyn yn gwanhau'r arwyneb yn raddol ac mae darnau o'r
ffordd yn mynd yn rhydd. Bydd y ffaith fod cerbydau'n gyrru dros y
twll hefyd yn achosi i'r pant dyfu dros gyfnod.
Sut mae ymgyrch Trwsio
Twll yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd wrth ddweud am dwll ar
hyn o bryd?
Mae Birkett LGA Ltd, ein harolygwyr a
chontractwyr priffyrdd presennol, yn dilyn amserlen wythnosol o
ddydd Llun tan ddydd Gwener. Ond yn ystod cyfnod Trwsio
Twll, bydd ein criwiau'n gweithio ar benwythnosau gyda'r
bwriad o lenwi tyllau pob ward yn y Fro. Bydd
tyllau argyfyngus mewn ardal risg uchel yn dal i gael eu
trwsio o fewn 24 awr.
Beth yw pwrpas yr ymgyrch
hon?
Mae criwiau Trwsio Twll yn
bwriadu trwsio pob twll a ganfuwyd ac arwynebeddau ffordd gwael bob
penwythnos. Lansiwyd yr ymgyrch mewn ymateb i ganfyddiadau arolwg
barn cyhoeddus annibynnol diweddar a gomisiynwyd gan y Cyngor.
Sut ydw i'n gwybod ym mha ward
rwy'n byw?
Ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 01446
700111 – bydd ein gweithwyr yn hapus i helpu.
Beth os bydd nifer o dyllau mewn un
darn o'r
heol?
Os ydy'n harolygydd priffyrdd yn
dyfarnu bod nifer annerbyniol o dyllau mewn un heol - neu ran
ohoni - mae'n bosibl y caiff hon ei glustnodi ar gyfer derbyn
arwyneb newydd yn y dyfodol yn hytrach na llenwi pob twll.
Fe lenwais y ffurflen Trwsio
Twll ond dyw'r twll ddim wedi cael ei lenwi eto. Beth sy'n
digwydd?
Rydyn ni'n ymateb i bob adroddiad cyn gynted
ag y gallwn ni. Mae'r goruchwyliwr ar y safle a'n harolygydd yn
blaenoriaethu gwaith ar gyfer pob penwythnos. Os ydy'r criw dan y
don dros benwythnos, byddwn yn ychwanegu'r tyllau sy'n weddill at
ein hamserlen wythnosol arferol.
Rwy'n methu parcio am fod
tîm priffyrdd y Cyngor yn llenwi tyllau yn yr heol. Pa
mor hir fyddan nhw yno?
Os oes marc gwyn o amgylch y twll, mae ar
ein rhestr o dyllau i'w llenwi'r penwythnos canlynol. Fell os
gwelwch chi dwll a marc gwyn o'i amgylch, peidiwch â
pharcio'n agos ato dros y penwythnos os gwelwch yn
dda. Byddwch yn amyneddgar os ydyn ni yn eich ffordd - dylai fod y
gweithwyr wedi gorffen o fewn awr.
A fydd cynllun 'Trwsio Twll' yn
achosi unrhyw anghyfleustra?
Yn anochel, bydd sŵn peirianwaith
wrth lenwi'r tyllau. Byddwn ni'n eich hysbysu ymlaen llaw lle
byddwn ni'n gweithio, ac mae'n contractwr wedi buddsoddi mewn
peiriannau tawelach i leihau'r sŵn cymaint
â phosibl.
Fydd ein criwiau ddim yn cychwyn ar y
gwaith swnllyd tan 9am ar fore Sadwrn a 9:30am ar fore Sul.
Pan fo angen, byddwn yn gweithredu system rheoli traffig megis
goleuadau neu arwyddion. Buasem yn gwerthfawrogi'ch amynedd - mae'r
criw yn gwneud eu gorau i drwsio pob twll o fewn awr.
Ydych chi'n cydymffurfio
â safonau o fewn y diwydiant?
Ydyn. Mae'n holl waith gosod arwyneb y ffordd
yn cael ei wneud mewn cydymffurfiaeth â'r safonau a
benodwyd gan ofynion ac amodau cytundebol
priffyrdd. Rydyn ni'n glynu wrth god ymarfer llym ar gyfer
rheoli a chynnal priffyrdd.

