Adnewyddu Tai
Adroddiad asesu adnewyddu canol Y
Barri
Appendix A
BTCLS Executive Summary
Appendix B
BTCLS Lifetime Renewal Area Stategy and Renewal Area Delivery
Framework
Appendix C
Challenges and Opportunities Plan
Appendix D
Castleland Renewal Plan
Tai Preifat – Polisi Adnewyddu Tai
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi miliynau o bunnau i helpu
perchenogion tai preifat yn y sir i drwsio, addasu a gwella’u
cartrefi.
Mae arian, cyngor a chymorth ar gael i bobl cymwys o’r naill ben
i’r Fro i’r llall. Targedir y cymorth i Ardal Adnewyddu Canol
Penarth ac i’r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.
Mae hwn yn un o’r llawer o newidiadau diweddaraf i’w cyflwyno o
dan y Polisi Adnewyddu Tai a ddaeth i rym ar 2 Mai 2005 gan ddod a
nifer o fanteision newydd i berchenogion tai lleol.
Mae newidiadau i’r polisi, a gyflwynwyd yn dilyn ymgynghori,
hefyd yn cynnwys gweithdrefn llwybr carlam a blaenoriaeth i bobl
sy’n gwneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.
Bwriada’r Cyngor fod yn fwy gweithgar mewn perthynas ag eiddo
gwag a gweithredu i ddelio â nhw. Bydd yn rhoi cynlluniau peilot ar
gyfer benthyciadau tai a rhyddhau ecwiti ar waith hefyd.
Mae nifer o newidiadau’n cael eu gwneud yn yr Ardaloedd
Adnewyddu. Mae'r rhain yn cynnwys ymestyn y Grant Cymorth ar gyfer
Trwsio’r Cartref i bensiynwyr a sefydlu amodau gosod 10-mlynedd ar
gyfer landlordiaid a Grant Diogelwch yn y Cartref newydd i
bensiynwyr a theuluoedd ifanc.
Bydd yr Ardaloedd Adnewyddu hefyd yn elwa o Grant Adfywio
newydd i droi eiddo masnachol yn gartrefi.
Bydd Ardal Adnewyddu Canol Penarth yn elwa o grantiau adnewyddu
ar gyfer gwaith mewnol, yn dilyn cynllun trwsio fesul grŵp, a
grantiau argyfwng i bobl fregus sy’n derbyn budd- dâl ar sail prawf
modd.
Cymorth ariannol arall a fydd ar gael yn yr Ardaloedd Adnewyddu
yw i berchenogion eiddo gwag neu berchenogion sy’n gwneud cais i
droi eu heiddo i ddarparu llety preswyl ychwanegol.
Dywedodd John Thomas, yr Aelod Cabinet dros Dai, Gwasanaethau
Adeiladu a Diogelwch Cymunedol “Mae buddsoddiad y Cyngor a’r
Llywodraeth i adfywio cymunedau drwy’r Ardaloedd Adnewyddu eisoes
wedi cael effaith gadarnhaol ar ardaloedd o gwmpas Vere Street yn Y
Barri a’r ardal ganolog.
“Mae’r Polisi Adnewyddu Tai diwygiedig yn cadarnhau ymrwymiad
parhaol y Cyngor “. Mae copïau o’r ddwy ddogfen ar gael mewn
llyfrgelloedd lleol neu gallwch eu llawr lwytho isod yn fformat
PDF.
Llawr
lwythwch Bolisi Adnewyddu Tai Cyngor Bro Morgannwg (PDF)