Deg hawl sylfaenol pobl ifanc

Yn 2002 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad bolisi o’r enw
Ymestyn hawliau: cynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru.
Yn ôl y llywodraeth, dylid seilio cefnogaeth i bobl ifanc ar ddeg
egwyddor, a dylid gweithredu’r egwyddorion yn deg o Fôn i
Fynwy.
Datblygwyd y deg egwyddor yma mewn
cydweithrediad â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau
Plant.
Mae’r deg hawl sylfaenol ar gael mewn tair
ffurf, ar gyfer wahanol ddibenion. Y bwriad yw sicrhau bod y
deg egwyddor yn berthnasol i bob sefyllfa. Maen nhw ar y
tudalennau i’r chwith.
Dy hawliau
I wybod beth yw dy hawliau, ac i’w deall
nhw
Sicrha dy fod yn eu deall, ac yn deall yr
hawliau a’r cyfrifoldebau a ddaw yn eu sgil
Clywed dy lais
Dy hawl yw bod yn rhan o gynlluniau a
phenderfyniadau sy’n berthnasol i ti
Cael y cyfle i gyfrannu, hyd yn oed os nad ti
sy’n penderfynu yn y pen draw
Dy lais, dy ddewis
Teimlo’n dda
Teimlo’n hyderus amdanat ti dy hun
Addysg a swydd
Cael y cyfle i ddysgu am bethau sy’n ddiddorol
ac yn berthnasol i ti
Mwynhau dy swydd
Mwynhau gweithgareddau hamdden, chwaraeon,
gweithgareddau diwylliannol ac yn y blaen
Cyfrannu
Bod yn rhan o dy gymdeithas
Gwirfoddoli
Cael parch gan eraill
Bod yn gyfartal â phawb arall
Cael cydnabyddiaeth am dy gyfraniad, a dathlu
dy lwyddiannau
Derbyn pethau
Derbyn cymorth a gwasanaethau lleol a
chenedlaethol yn hawdd
Iechyd a lles
Byw bywyd iach, yn gorfforol ac yn
feddyliol
Cael gwybodaeth, cyngor a chymorth
Derbyn y diweddaraf ar bob pwnc perthnasol i
ti, yn hawdd ac yn gyfleus
Diogelwch
Byw mewn cartref diogel mewn cymuned
ddiogel.