Vale of Glamorgan Council


Hafan > Byw > Bywyd yn y gymuned > Digwyddiadau Bywyd > Cofrestru marwolaeth
Byw | Gweithio | Mwynhau | Ein Cyngor
English
Pa ddogfennau sydd eu hangen?
Y Crwner
Cofrestru marwolaeth dramor
Yr ewyllys a’r ystâd
Angladdau

 

Cofrestru marwolaeth

 

Pan fydd rhywun yn marw mae yna lawer o benderfyniadau a threfniadau i’w gwneud.  Yn anffodus, mae'n rhaid i chi wneud y penderfyniadau a’r trefniadau yma yn ystod cyfnod o alar personol.  Nod y tudalennau hyn yn cynnig cymorth ac arweiniad i chi yn eich profedigaeth.

 

Taflen wybodaeth

 

Pryd i gofrestru marwolaeth

 

Dylid cofrestru marwolaeth cyn pen pum diwrnod, os nad ydi’r Cofrestrydd yn dweud yn wahanol. Os ydi’r farwolaeth wedi cael ei gyfeirio at y crwner, yna bydd Swyddfa’r Crwner neu’r Cofrestrydd yn eich cynghori ynglŷn â beth i’w wneud gan na ellir cofrestru marwolaeth heb ganiatâd y Crwner.

 

Pwy ddylai gofrestru’r farwolaeth?

 

Un o berthnasau’r ymadawedig ddylai gofrestru’r farwolaeth. Os nad oes perthnasau i’w cael, mae’n bosib i rywun arall gofrestru'r farwolaeth.  Cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru i gael cyngor.

 

Ble i gofrestru marwolaeth

 

Yng Nghymru a Lloegr mae’n rhaid i chi gofrestru marwolaeth yn Swyddfa Gofrestru'r ardal lle digwyddodd.  Os ydi hi’n fwy cyfleus, fe allwch chi fynd i swyddfa arall i gwblhau’r gwaith papur perthnasol ar ffurf ‘datganiad’. Bydd y datganiad hwn yn cael ei anfon i’r cofrestrydd yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth i’w gofrestru. Bydd y gwaith papur a’r tystysgrifau y gofynnwyd amdanynt yn cael eu hanfon atoch yn y post. Os ydych yn dewis mynd ati i wneud pethau’r ffordd yma, mae’n bosib y bydd rhaid i chi ohirio’r angladd am ryw gymaint gan nad yw’n bosib cynnal angladd neu amlosgiad cyn i’r cofrestrydd gyflwyno’r gwaith papur angenrheidiol.

 

 

Mae oriau gwaith y swyddfeydd cofrestru yn amrywio o ardal i ardal.  Mae’r broses yn cymryd tua hanner awr o gyrraedd i adael.

 

Swyddfa gofrestru Bro Morgannwg

 

Swyddfeydd y cyngor

Heol Holton

Y Barri

Bro Morgannwg

CF63 4RU

 

01446 700111

 

RegistrationService@valeofglamorgan.gov.uk

 

Oriau (apwyntiad o flaen llaw yn unig)

 

Dydd Llun i ddydd Iau

0830 – 1300 1400 – 1630

Dydd Gwener

0830 - 1300 1400 - 1600

 

Gwasanaeth argyfwng

01446 747 874

 

Parcio

 

Yn ystod yr wythnos, mae ychydig o lefydd parcio ym maes parcio’r cyngor oddi ar Dock View Road neu’r ganolfan hamdden.  Mae yna ddigon o le am ddim ar y penwythnos.

 

Ewch i brif dderbynfa swyddfeydd y cyngor wrth gyrraedd.

 

Swyddfeydd Eraill:

 

Swyddfa Gofrestru, Penarth

West House

Heol Stanwell

CF64 2YG

Rhif Ffôn: 01446 700111

Oriau Swyddfa Llun-Gwen 0900 - 1300 drwy drefniant yn unig

1400 - 1600 drwy drefniant yn unig

 

Neuadd y Dref Llanilltud Fawr

Rhif Ffôn: 01446 700111

Oriau Swyddfa: Dydd Mawrth 0930 – 1230 drwy drefniant yn unig



Return to Graphics Mode
| Hafan | Newyddion Diweddaraf | chwilia | Help | Ymwadiad | Cymraeg teitl. |